Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Rheol Dillad Isaf yn ffordd syml o helpu i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin. Mae’n dysgu’r plant mai eu corff nhw yw e, bod ganddyn nhw hawl i ddweud na ac y dylen nhw ddweud wrth oedolyn os ydyn nhw’n anhapus neu’n poeni am rywbeth. Mae’r negeseuon yn briodol i blant 5-11 oed.

Mae pob llinell o’r gair PANTS yn rhoi sylw i wahanol ran o’r Rheol Dillad Isaf, ac mae’n darparu gwers syml a gwerthfawr sy’n gallu cadw plentyn yn ddiogel.

Chi fydd yn penderfynu pryd i ddechrau siarad PANTS gyda’ch plentyn. Chi fydd yn gwybod pryd fydd yn barod a faint o fanylion i’w rhoi iddo.

Mae PANTS yn ffordd rwydd iawn o esbonio’r Rheol Dillad Isaf i’ch plentyn:

  • Preifats yn breifat
  • A chofia mai dy gorff di yw e 
  • Na yw na
  • Teimlo’n anhapus am gyfrinach? Dweda wrth rywun ti’n ymddiried ynddo
  • Sonia wrth rywun, gallan nhw dy helpu

Mae gan yr NSPCC ganllaw sy’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi i ddechrau’r sgyrsiau hynny. I lawrlwytho’r canllaw i rieni neu i wrando ar rai awgrymiadau a chyngor gan rieni eraill, ewch i wefan yr NSPCC (Dolen allanol).