Neidio i'r prif gynnwy

Gall trefn amser gwely helpu i wneud amser gwely’n haws.

Weithiau, bydd eich plentyn yn syrthio i gysgu’n rhwydd ac yn cysgu drwy’r nos. Dro arall, bydd yn ei chael hi’n anodd syrthio i gysgu ac yn deffro yn ystod y nos.

Gall trefn amser gwely helpu i wneud amser gwely’n haws.

Gallwch gynllunio ymlaen llaw drwy:

  • Feddwl am yr amseru. Os yw’ch plentyn yn cymryd amser maith i syrthio i gysgu, efallai eich bod chi’n ei roi yn y gwely’n rhy gynnar. Os yw’ch plentyn wedi cyffroi gormod i gysgu, efallai eich bod chi’n ei roi yn y gwely’n rhy hwyr.
  • Sefydlu drefn amser gwely. Gwnewch yr un pethar yr un pryd pob nos. Penderfynwch pa drefn sy’n gweithio orau i’ch teulu chi.
  • Dweud wrth eich plentyn ei bod hi bron yn amser gwely. Pan fyddwn ni wedi gorffen y gêm hon, bydd hi’n amser gwely”.
  • Ceisio osgoi gormod o gyffro cyn amser gwely. Ceisiwch osgoi chwarae swnllyd neu wyllt neu weithgareddau sgrin megis teledu, cyfrifiaduron, llechi neu ddyfeisiau llaw eraill. Canolbwyntiwch ar weithgareddau sy’n helpu dy plentyn i deimlo’n digynnwrf. Efallai y gallech chi ystyried beth mae’ch wedi’i fwyta a sut y gallai effeithio ar ei gwsg.
  • Gofalwch fod eich plentyn wedi gwneud popeth a all achosi iddo alw allan yn ystod y nos. Ydy e wedi cael diod? Ydy e wedi mynd i’r toiled? A oes ganddo ei hoff dedi?
  • Rhowch rywbeth diogel iddo fynd i’r gwely gydag ef megis tedi neu flanced. Gadewch olau nos ymlaen neu gadewch y drws yn gilagored. Yna lapiwch y plentyn yn ei ddillad gwely a dywedwch nos da.
  • Os yw’ch plentyn yn codi allan o’r gwely byth a hefyd, meddyliwch a oes unrhyw beth sydd ei angen arno (efallai mai chi yw hynny!) Ewch â’ch plentyn yn ôl i’r gwely mewn ffordd dyner a thawel. Gwnewch hyn gymaint o weithiau ag sydd angen hyd nes y bydd eich plentyn yn aros yn y gwely.

Ble i gael cyngor a chefnogaeth

Mae cymorth a chyngor magu plant cyffredinol ar gael gan fydwragedd, ymwelwyr iechyd, meddygon teulu a’ch awdurdod lleol. Mae rhaglenni cymorth cynnar fel Dechrau’n Deg (os wyt yn byw mewn ardal Dechrau’n Deg) a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd ar gael.

Edrych ar ôl dy hunan. Gall cwrdd â rhieni eraill fod yn llesol. Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (www.ggd.cymru) lleol yn gallu dweud wrthyt beth sy'n digwydd yn dy ardal.