Neidio i'r prif gynnwy

Sut i ddelio gyda phryderon rhianta a syniadau ar lywio ymddygiad eich plentyn mewn modd cadarnhaol

Does dim ots os ydych chi’n Fam, yn Dad neu’n ofalwr, magu plentyn yw un o’r pethau pwysicaf y gallwch chi ei wneud. Bydd arwain eich plentyn trwy gyfnodau da a drwg bywyd yn rhoi boddhad mawr i chi, yn ogystal â chyflwyno heriau di-ri.

Mae plant yn cyfoethogi ein bywydau mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Mae pob plentyn yn unigryw a does dim y ffasiwn beth â dull o rianta sy’n addas i bawb. Mae angen i rieni ddeall ac ymateb i gryfderau, anghenion a phersonoliaeth unigryw eu plentyn.

Dydy babis a phlant bach ddim yn gwybod beth sy’n dderbyniol a beth sy’n annerbyniol. Dydy plant ifanc ddim yn gallu cysylltu eu teimladau, eu meddyliau a’u hymddygiad yn yr un modd ag y gall oedolion wneud. Mae plant yn dysgu i reoli eu hemosiynau a’u hymddygiad wrth iddyn nhw ddatblygu. Wrth iddyn nhw dyfu, maen nhw’n dysgu ffyrdd derbyniol o ymateb i wahanol sefyllfaoedd.

Y ffordd orau y gall rhieni gefnogi’r datblygiad hwn yw trwy feithrin perthynas dda gyda’u plentyn ac adeiladu ar awydd eu plentyn i blesio.

Mae’r tudalennau hyn yn cynnwys gwybodaeth, awgrymiadau a syniadau ar arwain ymddygiad eich plentyn mewn ffordd gadarnhaol ac ar amryw o bynciau pwysig eraill sy’n gysylltiedig â bod yn rhiant.