Heddiw mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi lansio ymgyrch newydd Magu Plant. Rhowch Amser iddo sy’n darparu gwybodaeth, cymorth a chyngor i rieni.
Mae'r pandemig wedi cael effaith ar deuluoedd, gan gynnwys mwy o ynysu ac unigrwydd a rhieni’n gorfod cefnogi eu plant sy'n hunanynysu neu ddelio â’u pryder eu hunain neu bryder eu plant.
Mae'r ymgyrch newydd yn ymdrin â’r materion sydd wedi peri pryder i rieni yn ystod y pandemig, gan gynnwys sut i ddeall ac ymateb i ymddygiad eu plant. Mae’n cynnig awgrymiadau ymarferol a chyngor arbenigol ar amrywiaeth o faterion ar sail tair thema graidd, sef ymddygiad eich plentyn, rhoi amser i'ch plentyn, a chefnogi rhieni drwy'r heriau y maent yn eu hwynebu.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Rydym yn deall y pwysau ar rieni a theuluoedd, eleni yn fwy nag erioed, ac rydym am i rieni wybod am y cymorth sydd ar gael iddynt ar Magu Plant. Rhowch Amser iddo.
Gall rhieni fod yn sicr bod y cyngor a'r wybodaeth ar Magu Plant. Rhowch amser iddo wedi'i gynhyrchu neu ei wirio gan arbenigwyr neu weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni.
Hoffwn ddiolch i rieni a gwarcheidwaid am bopeth y maent yn ei wneud i gefnogi eu teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwy’n annog teuluoedd i ddilyn y sianeli Magu Plant. Rhowch amser iddo ar y cyfryngau cymdeithasol i gael gwybod mwy.