Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth wedi datgelu cynlluniau i weithredu, rheoli a chynnal maes awyr a pharc busnes Saint Athan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd menter ar y cyd ar ffurf contract 10 mlynedd rhwng Llywodraeth Cymru a Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (CIAL) yn ei wneud yn fwy effeithiol ac yn sicrhau gwasanaeth integredig.

O dan y cynlluniau hyn, bydd y parc busnes, gyda'r maes awyr, yn sicrhau digon o fanteision economaidd i Gymru, a bydd yn golygu cyfanswm o oddeutu £236 miliwn a tua 2000 o swyddi, sy'n cynnwys y 750 sydd eisoes wedi'u hymrwymo gan Aston Martin.

Mae'r newid i redeg y maes awyr a'r parc busnes gan sifiliaid wedi'i gyfuno â chwblhau'r ffordd fynediad ogleddol newydd yn 2019 a phrosiect Aston Martin yn gwneud Sain Tathan yn gyfle cyffrous i ddarparu swyddi a phrosiectau.

Meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:

"Fe wyddom nad oes gennym yr arbenigedd yn fewnol i weithredu a rheoli maes awyr yn uniongyrchol. O dan y trefniadau presennol, mae gennym ymrwymiad i'r Weinyddiaeth Amddiffyn i weithredu, rheoli a chynnal y maes awyr at ddibenion milwrol.

Ein cynllun bellach yw trosglwyddo cyfrifoldeb ar gyfer gweithgareddau'r maes awyr gan gynnwys rheoli a cynnal a chadw, diogelwch, gwasanaethau radar a rheoli trafnidiaeth awyr i gyflenwr un ffynhonnell. 

Mae Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd (CIAL) wedi'i nodi fel yr unig gyflenwr sy'n gallu darparu'r holl wasanaethau sydd eu hangen, oherwydd yn rhannol ei fod mor agos at Sain Tathan.  

Rydym wedi datblygu cynnig i reoli proses bontio y maes awyr o fod â thrwydded maes awyr yr Awdurdod Hedfan Milwrol (MAA) i'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA), ac wedi dechrau gwneud cyflwyniadau i CAA i'r perwyl hwn.  Rydym hefyd wedi llunio contract JV gyda Maes Awyr Caerdydd fydd yn eu galluogi i redeg y maes awyr a rheoli y traffig awyr fesul cam i sicrhau parhad y gwasanaeth."

Mae newyddion am y fenter ar y cyd yn dilyn ymarfer cysylltu â'r cyhoedd ar Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd Cyf ar ei Gynllun Mawr, sydd wedi'i anelu at ddatblygu pwysigrwydd Maes Awyr Caerdydd ac Ardal Fenter Sain Tathan ymhellach fel canolfan rhagoriaeth awyrenegol.

Ychwanegodd Deb Barber, Prif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd: 

"Mae cyhoeddiad y Gweinidog yn ategu ein Cynllun Meistr drafft sy'n pennu ein gweledigaeth hyd at 2040. Ers i Faes Awyr Caerdydd ddod o dan berchnogaeth gyhoeddus yn 2013, rydym wedi gweithio'n ddi-flino i wella seilwaith y prif adeilad, cynyddu nifer y teithwyr a chroesawu llwybrau a chwmnïau awyrennau i Gymru. 

Wrth inni gyrraedd cam nesaf ein taith, rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu busnes cynaliadwy mewn maes awyr sy'n canolbwyntio ar barhau i gynyddu nifer y teithwyr, gwella seilwaith a sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i arallgyfeirio'r busnes. 

Oherwydd hynny, rydym yn croesawu'r cyfle i gymryd drosodd y gwaith o redeg, rheoli a cynnal a chadw maes awyr Sain Tathan a'r parc busnes ac rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar i'n rhanddeiliad am gydnabod posibiliadau Maes Awyr Caerdydd, fel ased pwysig i Gymru ac i gyfrannu at yr economi leol."