Mae Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i hybu buddsoddiad mewn seilwaith ac i roi’r gorau i’w pholisi o galedi er mwyn cefnogi twf yng Nghymru.
<?XML:NAMESPACE PREFIX = "O" />
Mae'r rhain yn cynnwys:
· Sicrhau bod terfynau benthyca cyfalaf blynyddol Llywodraeth Cymru yn cael eu diwygio fel rhan o'r trafodaethau ar y fframwaith cyllidol;
· Pwysigrwydd sicrhau a llofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe a bwrw ymlaen â bargen twf ar gyfer y Gogledd;
· Llywodraeth y DU yn ailystyried ei phenderfyniad i beidio â datganoli'r Doll Teithwyr Awyr i Gymru;
· Yr achos o blaid cael gwared ar dollau Pont Hafren yn llwyr ar ddiwedd y gostyngiad cyfredol.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
"Yn y cyfnod ansicr hwn, mae'n bwysig inni greu amodau ar gyfer economi gref a diogel.
"Bydd twf economaidd yn cynyddu refeniw trethi, yn lleihau lefelau diweithdra ac yn atgyfnerthu cyllid cyhoeddus yng Nghymru a’r DU. Mae Datganiad yr Hydref yn gyfle euraidd i Lywodraeth y DU symud i ffwrdd o’i pholisi niweidiol o gyni a chynnig yr hwb cyllidol y mae ei angen i gefnogi twf.
"Mae nifer o feysydd lle gall Llywodraeth y DU weithredu i roi sicrwydd yn y cyfnod anodd hwn a’n helpu i hybu twf yng Nghymru. Gwyddom am bwysigrwydd bargen ddinesig gyfer dinas-ranbarth Bae Abertawe a bargen twf ar gyfer y Gogledd ac mae angen bwrw ymlaen â hwy, a hynny fel blaenoriaeth.
"Rydym hefyd yn galw i’n terfynau benthyca cyfalaf blynyddol gael eu diwygio ac i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad i beidio â datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru. Rydym hefyd am i dollau Croesfan Hafren gael eu diddymu.
"Mae’r rhain i gyd yn faterion hollbwysig o safbwynt a lles economaidd hirdymor pobl a chymunedau yng Nghymru."
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Cyllid:
"Er gwaethaf toriadau mewn termau real i'n cyllideb gyffredinol gan Lywodraeth y DU, rydym yn gwneud ein gorau glas i amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus rhag effeithiau gwaethaf cyni parhaus ac ansicrwydd cyllidol.
"Mae’n hen bryd defnyddio dull gweithredu newydd - dyna pam rydym am i Lywodraeth y DU roi’r gorau i wleidyddiaeth sy’n seiliedig ar gyni a rhoi hwb angenrheidiol i fuddsoddi mewn seilwaith.
"Yn y cyfnod ansicr hwn, mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddarparu sefydlogrwydd ac uchelgais a sicrhau Cymru ffyniannus a diogel."