Neidio i'r prif gynnwy

Mae adroddiad newydd Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd heddiw yn dangos fod degawd o gynni adiwygiadau lles gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyfrannu at y ffaith bod mwy o blant ar aelwydydd sy'n gweithio yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r adroddiad yn trafod y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru i weithredu ei Strategaeth Tlodi Plant, ac yn dangos bod y camau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cymryd er mwyn creu economi gref a mynd i'r afael â diweithdra, gwella sgiliau, taclo anghydraddoldeb a chynyddu incwm aelwydydd, oll yn lliniaru effeithiau tlodi.

Ond mae hefyd yn dangos bod gallu Llywodraeth Cymru i atal y cynnydd yn y lefelau cyffredinol o dlodi plant wedi bod yn gyfyngedig iawn, a hynny’n bennaf oherwydd dewisiadau polisi a chamau gweithredu gan Lywodraeth  y Deyrnas Unedig a'r ffaith bod gwaith ansicr ac am gyflog isel yn fwyfwy cyffredin.

Mae dadansoddiad o'r Arolwg o Adnoddau Teulu (2015-16 i 2017-18) yn dangos bod mwy o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar aelwydydd sy'n gweithio nag mewn aelwydydd di-waith – mae 67% o blant sy'n byw mewn tlodi incwm cymharol ar aelwydydd lle mae o leiaf un person yn gweithio. O ganlyniad, mae 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi.

Dywed yr adroddiad mai'r rheswm am hyn yw toriadau cynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn bennaf ochr yn ochr â'r diwygiadau i’r polisïau treth a lles, megis credyd cynhwysol, rhewi budd-daliadau a'r cap dau blentyn. Mae aelwydydd un rhiant sy'n gweithio mewn perygl mawr o fod mewn tlodi.

Mae Llywodraeth 'n parhau i gymryd camau clir a phendant i fynd i'r afael â thlodi drwy helpu i greu swyddi a thwf economaidd, a helpu pobl i ymdopi â chostau byw drwy roi mwy o arian yn ôl yn eu pocedi.

Mae Cymru'n cynnal cyfradd cyflogaeth sydd cryn dipyn yn uwch na'i chyfartaledd hanesyddol, gyda thros 263,000 yn fwy o bobl mewn gwaith ers 1999. Mae nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru wedi gostwng mwy na 18%, o 223,000 i 182,000, ers datganoli ac mae nifer y plant sy'n byw ar aelwydydd heb waith wedi gostwng o 100,600 yn 2010 (18.8%) i 68,700 yn 2018 (12.6%).

Mae polisïau a chymhelliannau Llywodraeth Cymru, megis presgripsiynau am ddim, prydau ysgol am ddim, y Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a chynnig gofal plant hael, yn golygu bod rhai teuluoedd yng Cymru dros £2,000 y flwyddyn yn well eu byd.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, sy'n gyfrifol am gydlynu camau gweithredu Llywodraeth Cymru i  fynd i'r afael â thlodi plant:

Mae mynd i'r afael â thlodi plant wastad wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac rydym wedi sicrhau bod adnoddau ar gael er mwyn helpu'r plant a'r teuluoedd hynny sydd fwyaf anghenus.

Rydym wedi gweld gostyngiad o bron i 20% yn nifer yr aelwydydd heb waith yng Nghymru – sy'n dangos yn glir bod ein polisïau economaidd ni yn gweithio i bobl Cymru. Yn ogystal â helpu degau o filoedd i gael gwaith, rydym yn rhoi help i deuluoedd ymdopi â chostau bywyd o ddydd i ddydd, drwy roi hyd at £2,000 y flwyddyn yn ôl ym mhocedi pobl. I bolisïau fel presgripsiynau am ddim, y cynnig gofal plant a nifer o bolisïau cyffelyb eraill y mae'r diolch am hyn. Maent yn helpu pobl yn i gael deupen llinyn ynghyd yn yr adegau anodd sydd ohoni.

Ond er gwaethaf yr holl waith da, mae'r adroddiad hwn yn dangos bod cymaint o waith i'w wneud eto. Mae'n dangos hefyd nad yw llawer o'r arfau pwysicaf i godi plant a theuluoedd allan o dlodi yn ein dwylo ni.

Fel y nodwyd yn ddiweddar mewn adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig, mae degawd o gyni a ysgogwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a diwygiadau’n ymwneud â threth a lles, wedi bod yn fwyaf niweidiol i’r rhai sy'n ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd. At hynny, rydym eisoes yn gweld sgil-effeithiau ein penderfyniad i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ac rydym yn disgwyl gweld lefelau tlodi yng Nghymru yn cynyddu yn sgil hynny.

I lawer, nid yw gwaith ar ei ben ei hun yn ddigon i sicrhau bod teuluoedd yn osgoi tlodi. Mae hyn wedi digwydd yn bennaf oherwydd cyfuniad o effaith toriadau cyni a'r ddiwygiadau’n ymwneud â threth a lles a gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ynghyd â'r cynnydd mewn swyddi ansicr sydd â chyflog isel yn y blynyddoedd diwethaf.

Rydym am weld tlodi plant yn lleihau yn hytrach nac chynyddu. Ond mae'r ffigurau hyn yn adlewyrchiad o'r polisïau o anghydraddoldeb y caniatawyd iddynt ddatblygu dros y degawd diwethaf gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i fynd i'r afael â thlodi a'i effeithiau gwenwynig.