Wrth i Adroddiad Canser Blynyddol 2016 Llywodraeth Cymru gael ei gyhoeddi, mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi dweud bod gwella diagnosis cynnar o ganser yn allweddol er mwyn gwella canlyniadau cleifion.
"Mae ein cynllun cyflawni diwygiedig ar gyfer canser yn egluro ein huchelgais i wella’n canlyniadau fel eu bod ymhlith y gorau yn Ewrop. I wneud hyn rhaid inni allu canfod mwy yn y camau cynnar fel bod y cleifion yn gallu elwa i'r eithaf ar y triniaethau sydd ar gael. Mae ein hadroddiad blynyddol yn disgrifio sut mae'r byrddau iechyd yn ad-drefnu gwasanaethau er mwyn sicrhau llwyddiant yn y maes hwn.
"Mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi creu llwybr newydd i gleifion sy'n mynd i weld eu meddyg teulu gyda symptomau amhenodol, gan uno gofal sylfaenol a chlinigwyr mewn ysbytai er mwyn gweithio tuag at ddiagnosis cyflymach.
"Gwelwyd gwelliant sylweddol yng ngwasanaethau diagnostig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac mae bellach yn un o ddau sefydliad drwy'r Deyrnas Unedig gyfan sy’n defnyddio system batholeg ddigidol. Ar ben buddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru mewn technoleg sganio, mae amseroedd aros a theithio cleifion y Gogledd hefyd wedi gostwng yn sylweddol.
"Yn Abertawe Bro Morgannwg, mae cleifion sy'n cael canlyniad Pelydr X amheus ar y frest bellach yn cael sgan CT fel rhan o'r drefn. Mae hyn yn cael gwared ar unrhyw oedi oedd yn arfer codi oherwydd bod rhaid i'r meddyg teulu ofyn am ymchwiliad pellach.
"Yn anffodus, mae canser yn effeithio ar fwyfwy o bobl yng Nghymru. Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn ymateb i hyn ac fe gafodd 8% yn fwy o bobl eu trin yn 2015/16 o'i gymharu â phum mlynedd ynghynt. O'r rheini cafodd 11% yn fwy eu trin o fewn targedau amseroedd aros canser.
"Rydym wedi cynyddu'r swm sy'n cael ei wario ar ganser o £307 miliwn yn 2011-12 i £409 miliwn yn 2014-15. Rydym wedi buddsoddi bron i £10 miliwn mewn peiriannau radiotherapi newydd ac wedi dyrannu £15 miliwn o’r gyllideb eleni ar gyfer gwella technolegau diagnosteg.
"Mae'r nifer sy'n goroesi canser yn parhau i gynyddu ond ry'n ni'n gwybod bod mwy o waith o'n blaenau. Ry'n ni wedi ymrwymo i barhau i wella’r maes hwn ac i sicrhau bod y bobl sy’n dioddef o ganser yng Nghymru’n cael y driniaeth a'r gofal gorau."