Mae’r Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu yng Nghaerdydd. Dyna fydd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, yn ei ddweud heddiw wrth nodi 70 mlynedd ers sefydlu addysg drwy’r Gymraeg ym mhrifddinas Cymru.
Bydd y Gweinidog, a oedd yn y flwyddyn gyntaf oll yn yr ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg gyntaf yng Nghaerdydd, yn ymuno â chriw o fyfyrwyr a chyn-ddisgyblion Ysgol Bryntaf ac Ysgol Gymraeg Caerdydd yn y brifddinas i ddathlu 70 mlynedd ers cyflwyno addysg Gymraeg yn ysgolion y ddinas.
Ers 1981, mae nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghaerdydd wedi cynyddu o 15,300 i dros 36,700 a bellach mae 17 o ysgolion cynradd a thair ysgol uwchradd yn y ddinas yn cynnig addysg i 8,500 o ddisgyblion o bob cefndir drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd dathliadau i nodi hyn yn cael eu cynnal yn ystod Tafwyl – gŵyl flynyddol sy’n para am wythnos gyfan ac a sefydlwyd gan Fenter Caerdydd, sef y mudiad sy’n hybu’r Gymraeg yng Nghaerdydd, i godi proffil y Gymraeg yn y brifddinas.
Mae Tafwyl yn gwneud cyfraniad aruthrol i strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru a’i nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Gwna hyn drwy gynnig cyfleoedd i oedolion, pobl ifanc a phlant brofi’r Gymraeg yn y brifddinas yng nghanol amrywiaeth o berfformiadau cerddorol byw, sesiynau llenyddol a stondinau sy’n hyrwyddo cynnyrch o Gymru.
Dywedodd Eluned Morgan:
“Mae’r twf mewn addysg cyfrwng Gymraeg yng Nghaerdydd wedi cyfrannu heb amheuaeth i’r twf sylweddol yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein prifddinas dros y blynyddoedd. Mae’n bleser pur i mi felly, fel cyn-fyfyriwr Ysgol Gyfun Glantaf, gael ymuno â chynifer o bobl i ddathlu 70 mlynedd o ysgolion cyfrwng Cymraeg yn ein prifddinas.
“Rydw i am weld yr iaith yn ffynnu hyd yn oed ymhellach. Dyna’r rheswm bod gennym gynllun uchelgeisiol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050. Er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae angen i ni sicrhau y gall pobl o bob oed glywed yr iaith a’i siarad yn naturiol ac yn anffurfiol yn rhan o’u bywyd bob dydd.
“Dyna pam mae digwyddiadau fel y Tafwyl mor bwysig. Maen nhw nid yn unig yn sicrhau bod y Gymraeg yn sail i ddigwyddiadau ledled y ddinas am wythnos gyfan ond hefyd yn arwain at fanteision sylweddol i’r economi leol.”
Ychwanegodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:
“Pan agorodd yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf, Ysgol Gymraeg Caerdydd, prin y byddai’r disgyblion a’r athrawon cyntaf hynny wedi dychmygu y byddai, ymhen 70 mlynedd, 17 ysgol gynradd a thair ysgol uwchradd yn ein prifddinas. Ac yn ogystal â hynny y byddem ar ein ffordd i gyflawni ein targed cenedlaethol o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
“O’r ysgol gyntaf, sef Ysgol Gymraeg Caerdydd, i’r ysgol sydd newydd agor sef Ysgol Hamadryad, mae’n wych gweld sut mae addysg drwy’r Gymraeg wedi ehangu yng Nghaerdydd. Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn ddwyieithog, a bod ganddynt y sgiliau a’r manteision a ddaw yn sgil hynny, yn holl ganolog i system addysg sy’n cyfuno tegwch a rhagoriaeth.”