Neidio i'r prif gynnwy

Mae canfyddiadau o arolwg baromedr twristiaeth diweddar wedi nodi bod hyder ymhlith y diwydiant twristiaeth yn gryf ar gyfer gwyliau'r haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod gŵyl banc y Sulgwyn a hanner tymor, croesawodd y rhan fwyaf o sectorau'r nifer uwch o ymwelwyr o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Nododd 32% gynnydd yn nifer yr ymwelwyr. 

Ar ddechrau mis Mehefin, heidiodd cefnogwyr pêl-droed i Gaerdydd a'r ardal ar gyfer Rowndiau Terfynol dynion a menywod Cynghrair y Pencampwyr UEFA. Ffynnodd busnes i lawer, gyda 41% yn y de-ddwyrain yn nodi mwy o ymwelwyr dros ŵyl y banc – dywedodd 47% o'r rhain fod y gemau pêl-droed wedi cyfrannu at y cynnydd.

Cynhelir digwyddiad mawr arall a gefnogir gan Lywodraeth Cymru ddydd Sul yma wrth i'r trydydd Velothon fynd rhagddo, a fydd yn gweld tua 10,000 o seiclwyr yn mynd i'r afael â'r llwybrau heriol mewn her seiclo ar ffyrdd caeedig. 

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 

“Mae gwylwyr yng Nghymru fel arfer yn rhoi croeso cynnes Cymreig i ymwelwyr a chystadleuwyr o Gymru, fel ei gilydd ar gyfer y Velothon - mae hyn yn creu awyrgylch gwych. Gyda pherfformiad chwedlonol Geraint Thomas yn creu hanes yr wythnos hon drwy fod y Cymro cyntaf i wisgo'r crys melyn enwog, rwy'n siŵr y bydd llawer yn cael eu hysbrydoli gan ei ymdrechion a byddant yn ceisio creu eu chwedloniaeth eu hunain y penwythnos hwn.  Mae ein haf o chwaraeon yn parhau pan fyddwn yn edrych ymlaen at gynnal y Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn ddiweddarach y mis hwn, rydym yn edrych ymlaen at groesawu rhai chwaraewyr mwyaf byd golff yn ôl i Gymru gyda Bernhard Langer yn dychwelyd i'r cwrs lle enillodd yn 2014 ac wynebu golffwyr fel Tom Watson, Colin Montgomerie a ffefrynnau o Gymru fel Ian Woosnam a Phil Price.  

“Eisoes eleni, rydym wedi croesawu'r Real Madrid a Juventus yn Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn llwyddiannus a chroesawu'r tlws Pencampwyr ICC i Gymru ac mae'r Bencampwriaeth Agored Golffwyr Hŷn yn gyfle arall i Gymru ddangos ein galluoedd wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon o'r radd flaenaf, “haf o arwyr chwaraeon” yng ngwir ystyr y gair. "

 Mae misoedd yr haf, pan fydd y diwydiant twristiaeth yn aml yn perfformio orau, yn rhoi hyder i fusnesau. Mae mwyafrif helaeth pob sector yn dangos lefel gadarnhaol o hyder wrth iddynt gychwyn ar frig y tymor. Mae hyder yn y diwydiant twristiaeth yn parhau'n gadarnhaol, gydag 87% o ymatebwyr â rhywfaint o hyder ar ddechrau tymor yr haf. Mae hyn yn cynnwys 39% sy'n ‘hyderus iawn’.

Er bod y rhagolwg yn gadarnhaol, erys yr economi yn gleddyf deufin. Mae rhai busnesau'n dweud bod mwy o Brydeinwyr yn aros yn y DU, wrth iddynt geisio lleihau cost eu gwyliau. Ond gyda llai o arian yn cael ei wario, mae busnesau eraill yn nodi bod diffyg arian pobl yn arwain at leihad yn nifer yr ymwelwyr.

Mae 33% o fusnesau'n dweud bod proffidioldeb i fyny hyd yma eleni, o gymharu â 2016.   Mae 18% o fusnesau sydd wedi croesawu mwy o ymwelwyr yn dweud mai un o'r rhesymau dros y cynnydd yw bod mwy o Brydeinwyr yn aros yn y DU.  Mae hyn yn arbennig o wir i'r sectorau hunanarlwyo (30%) a charafanio a gwersylla (23%).

Yn ogystal, mae'r papur Arolwg Ymweliadau Undydd Prydain Fawr a gyhoeddwyd yn ddiweddar wedi nodi hefyd bod 98.4 miliwn o ymweliadau dydd twristiaeth i Gymru yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mai 2017, gyda gwariant cysylltiedig o £4,166 miliwn. Mae nifer yr ymweliadau wedi cynyddu 8.5% o gymharu â'r 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mai 2016, ac mae'r swm a wariwyd wedi cynyddu 21.1%.