Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun Cymorth i Brynu Cymru Llywodraeth Cymru yn helpu pobl nad ydynt fel arall yn gallu fforddio cartref ddod yn berchnogion tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r cynllun eisoes wedi cefnogi mwy na 14,500 o aelwydydd i brynu eu cartrefi eu hunain. Ers Ebrill 2022, mae 84% o brynwyr wedi bod yn brynwyr tro cyntaf.

Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, £57 miliwn ychwanegol i ymestyn y cynllun tan fis Medi 2026, gan ganiatáu i hyd yn oed mwy o bobl gwireddu eu breuddwyd o fod yn berchen ty.

Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ar ymweliad â Gardd Locke, datblygiad Lovell Homes yng Nglan Llyn yng Nghasnewydd i gwrdd â pherchnogion tai newydd sydd wedi elwa o'r cynllun.

Roedd un o'r prynwyr, Venkatesh Mandapati, yn rhentu yng Nghasnewydd cyn iddo ef a'i wraig brynu eu cartref tair ystafell wely yn natblygiad Lovell trwy Cymorth i Brynu Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Wrth gyfarfod â Mr. Mandapati, clywais yn uniongyrchol sut mae Cymorth i Brynu Cymru wedi trawsnewid ei fywyd o fod yn rentwr i fod yn berchennog cartref. Mae'r cynllun yn sicrhau newid gwirioneddol i bobl ledled Cymru, gan helpu unigolion a theuluoedd i fwynhau'r sicrwydd o fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.

Rwy'n arbennig o falch o'r gefnogaeth rydyn ni'n ei ddarparu i brynwyr tro cyntaf, ac yn eu helpu i gymryd eu cam cyntaf ar yr ysgol eiddo.

Byddwn yn parhau i weithio gyda datblygwyr a phartneriaid i sicrhau bod Cymorth i Brynu Cymru yn hygyrch i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Dywedodd Suzie Hewitt, Cyfarwyddwr Gwerthiant Rhanbarthol Lovell:

Mae Cymorth i Brynu Cymru yn gynllun ardderchog sydd wedi helpu llawer o'n prynwyr i gael eu troed ar yr ysgol eiddo a chael prynu eu cartref eu hunain. Yng Ngerddi Locke, mae 36 y cant o brynwyr wedi defnyddio'r cynllun i brynu amrywiol dai dwy a thair ystafell wely sydd ar gael ar y datblygiad.

Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Erddi Locke i drafod y cynllun a siarad yn uniongyrchol â thrigolion Lovell sydd wedi elwa ohono, ac edrychwn ymlaen at gysylltu mwy o brynwyr â'r cartref iawn iddyn nhw gyda chymorth y cynllun yn y dyfodol.