Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid, wedi ymateb i Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU heddiw drwy fynegi ei phryder a’i siom aruthrol bod addewidion wedi cael eu torri a’r penderfyniadau anghywir wedi cael eu gwneud.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Galwodd Llywodraeth Cymru ar y Canghellor i ymwrthod yn llwyr rhag rhewi cyflogau gweithwyr yn y sector cyhoeddus a’i annog i ddefnyddio ysgogiadau Trysorlys y DU i gefnogi chwarae teg a galw economaidd. Mae’r penderfyniad hwn yn annheg ac yn diystyru’r aberth y mae gweithwyr y rheng flaen wedi’i wneud gydol yr argyfwng. 

Dywedodd y Gweinidog ei bod yn anhapus iawn ynglŷn â’r setliad cyfalaf hynod siomedig, sydd lawer yn llai na’r hyn a ddisgwyliwyd.

Dywedodd Rebecca Evans:

Mae Llywodraeth y DU yn siarad yn fras am fuddsoddi mewn adferiad, ond mae’n gwrthod buddsoddi ynddo. Mae ffigurau heddiw yn tanseilio ein gallu i gynllunio ar gyfer ein hadferiad, a buddsoddi ynddo, yn llwyr.

Methodd y Canghellor gydnabod hefyd yn ei ddatganiadau heddiw mai i Loegr yn unig y mae unrhyw setliadau sydd wedi’u cynllunio ar gyfer sawl blwyddyn yn berthnasol – dydyn nhw ddim yn berthnasol i Gymru. Mae’r dasg sy’n ein hwynebu ar gyfer cynllunio at y dyfodol yn anodd iawn felly.

Nid oedd setliad heddiw yn cynnig unrhyw beth newydd i Gymru. Er gwaethaf galwadau i Lywodraeth y DU ddarparu sicrwydd hirdymor i gymunedau yng Nghymru sydd wedi cael eu heffeithio gan stormydd a materion diogelwch tomenni glo, cafodd blaenoriaethau Cymreig eu hanwybyddu. 

Dywedodd Rebecca Evans:

Gallai’r Canghellor fod wedi defnyddio ei ddatganiad heddiw i gyflwyno setliad hirdymor sy’n cydnabod o’r diwedd y pryder sy’n cael ei deimlo ymhlith cymunedau a gafodd eu heffeithio gan lifogydd a chan oblygiadau sy’n deillio o’n hen byllau glo.

Er gwaetha’r geiriau dymunol gan y Canghellor ynglŷn â ‘chodi’r gwastad’, yr hyn a oedd yn gwbl glir o’r datganiad heddiw yw bod Cymru yn mynd i fod o dan anfantais sylweddol, diolch i lywodraeth sy’n torri ei holl addewidion ynglŷn ag arian yn lle cyllid yr UE.   

Aeth y Gweinidog ymlaen i ddweud hefyd:

Mae’r ffaith bod y Canghellor wedi gwrthod diogelu taliadau Credyd Cynhwysol yn golygu bod baich yr argyfwng yn mynd i gael ei roi ar ysgwyddau’r rheini sydd yn y sefyllfa fwyaf anghenus i ddechrau.