Dyma neges Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, ar ddechrau canfed Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd heddiw.
Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi bod bron i filiwn o bunnoedd ar gael drwy'r Gronfa Bontio Ewropeaidd er mwyn helpu'r sectorau amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd i ymateb i'r risgiau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth Brexit.
Caiff y cyllid ei ddefnyddio er mwyn cefnogi'r sectorau i fod mor gydnerth â phosibl drwy gynllunio effeithiol, cymorth â materion iechyd meddwl a llesiant a datblygu ymhellach gyfleoedd marchnata.
Yn nes ymlaen heddiw bydd y Gweinidog yn trafod â ffermwyr ac â sefydliadau partner gynigion ymgynghoriad Llywodraeth Cymru sef Ffermio Cynaliadwy a'n Tir o ran cymorth i ffermydd yn y dyfodol ar ôl Brexit.
Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gwobrwyo ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol a bydd yn gwarchod y tir a'r amgylchedd er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Dros y dyddiau nesaf bydd y Gweinidog yn mynychu dros ddeugain o ddigwyddiadau yn y Sioe, a bydd yn gwrando ar sylwadau ffermwyr, cynrychiolwyr o'r diwydiannau bwyd a choedwigaeth, Undebau a sefydliadau partner.
Meddai'r Gweinidog:
"Ar ddechrau canfed Sioe Frenhinol Cymru mae gennym lawer i'w ddathlu o safbwynt amaethyddiaeth yng Nghymru a'i gyfraniad allweddol.
"Byddwn yn sicr yn parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit. Eto i gyd, mae'n rhaid i ni sefydlu cynlluniau er mwyn sicrhau dyfodol cadarn ar gyfer amaethyddiaeth fel y bydd modd i genedlaethau'r dyfodol ddathlu 100 mlynedd arall o ffermio yn Sioe Frenhinol Cymru 2119.
"Adeg sioe'r llynedd roeddem yn disgwyl i'r DU fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn hyn ac roeddem wedi gobeithio y byddai'r sefyllfa'n fwy clir o ran effaith hyn ar y diwydiant. Yn anffodus, fodd bynnag, rydym yn wynebu cyfnod cwbl unigryw a chynyddol ansicr.
"Bydd enw Prif Weinidog nesaf y DU yn cael ei gyhoeddi yn ystod wythnos y Sioe eleni ac mae bellach yn glir fod y DU yn fwy tebygol o ymadael â'r UE heb gytundeb.
"Heb unrhyw amheuaeth bydd ymadael heb gytundeb yn gwbl drychinebus i'r sector ac mae'n rhaid i ni geisio gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio osgoi hyn. Ni allwn, fodd bynnag, anwybyddu'r ffaith bod ymadael heb gytundeb yn debygol iawn ac mae'n rhaid i ni baratoi ar gyfer pob sefyllfa bosibl.
"Mae'n Cronfa Pontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn eisoes yn helpu busnesau, sectorau allweddol a sefydliadau partner i baratoi. Rwy'n falch iawn fod mod wedi sicrhau bron i filiwn o gyllid drwy'r gronfa gan y bydd y cyllid hwn yn helpu i gefnogi ein sectorau amaethyddiaeth, pysgodfeydd a bwyd i ymateb i'r risgiau a'r cyfleoedd sydd ynghlwm wrth Brexit.
"Gwnes lansio'n ddiweddar ein cynigion ar gyfer cynllun ffermio cynaliadwy newydd - bydd y cynllun newydd hwn yn sicrhau bod ffermwyr yn cael eu gwobrwyo am ganlyniadau amgylcheddol. Bydd ein cynigion yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu, fel y newid yn yr hinsawdd a gwyrdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Byddant hefyd yn helpu i sicrhau dyfodol llwyddiannus i'r sector ac i genedlaethau'r dyfodol.
"Hoffwn fanteisio ar gyfleoedd yn ystod y Sioe eleni i siarad â chymaint â phosibl o bobl a chynnal ein sgwrs genedlaethol ynghylch ein cynigion. Mae'n fuddiol cael clywed gan y ffermwyr eu hunain ynghylch sut rydym yn cydweithio mewn ffyrdd newydd er mwyn canfod atebion. Dyma gyfle i greu cynllun penodedig ar gyfer Cymru a fydd yn sicrhau dyfodol cynaliadwy a chadarn i ffermio ar ôl Brexit."
Ddydd Mawrth bydd y Gweinidog yn lansio ymgynghoriad ar y cynllun gweithredu nesaf ar gyfer bwyd a diod 2020-2026. Dyma gynllun sy'n ceisio adeiladu ar lwyddiant sector Cymru sydd eisoes ag enw da ar draws y byd. Bydd hyn yn helpu'r diwydiant i dyfu ac i ymateb i'r heriau a fydd yn deillio o Brexit.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi sut y bydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r sector er mwyn cyflawni tri nod allweddol:
- datblygu busnes - Ehangu cwmpas a gwerth y sector, a chynhyrchiant busnesau;
- sicrhau budd i'n pobl a'n cymdeithas - Bydd ein cymorth a'n buddsoddiad yn helpu busnesau i sicrhau manteision ehangach drwy waith teg, meithrin sgiliau a defnyddio adnoddau mewn modd cynaliadwy.
- hyrwyddo Cymru fel gwlad fwyd – tynnu sylw at ein sector, datblygu a chyflawni ein safonau uchel a dathlu llwyddiant.
Mae targedau a mesurau o fewn y cynllun sy'n gosod cyfeiriad uchelgeisiol a heriol i'r sector.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Mae'n sector bwyd a diod yn sector llwyddiannus ac mae'n creu enw iddo'i hun ar draws y byd. Nod ein cynllun gweithredu newydd yw adeiladu ar y llwyddiant hwn. Hoffem greu sector bwyd a diod cadarn a llewyrchus yng Nghymru sy'n cael ei gydnabod ar draws y byd am ei ragoriaeth, ac sydd ag un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn y byd ar lefel amgylcheddol a chymdeithasol.
"Mae'r cyllid drwy'r Gronfa Pontio Ewropeaidd yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw ynghyd â'n cynllun gweithredu bwyd a diod yn ddwy enghraifft o'r mesurau ymarferol rydym yn eu cyflwyno er mwyn sicrhau'r cyfle gorau posibl i fusnesau a phobl ffynnu ar ôl Brexit."