Huw Irranca-Davies y gallai gofalwyr yng Nghymru fod yn esgeuluso eu hiechyd a'u lles eu hunain wrth beidio â sicrhau bod eu hanghenion gofal hwythau yn cael eu hasesu a'u diwallu.
I nodi wythnos ymwybyddiaeth gofalwyr 2018, bu'r Gweinidog yn ymweld â chanolfan i ofalwyr yn Abertawe heddiw i ddiolch i ofalwyr am eu hymrwymiad i'w hanwyliaid a'u hannog i sicrhau eu bod yn defnyddio'u hawl cyfreithiol i gael asesiad gofalwr.
Dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, mae gan ofalwyr yr un hawl i gael asesiad o'u hanghenion â'r rheini maen nhw'n gofalu amdanynt. Y bwriad yw gweld a oes angen cymorth arnynt wrth ofalu, ac yna sicrhau ei fod yn cael ei ddarparu yn ôl yr angen.
Gall gofalwr fod yn unrhyw un, o unrhyw oed, sy'n darparu gofal a chymorth yn ddi-dâl i aelod o'r teulu, i gyfaill, neu i gymydog sydd angen gofal a chymorth.
Amcangyfrifir bod dros 370,000 o ofalwyr yng Nghymru sy'n cyfrannu dros £8.1bn at yr economi bob blwyddyn. Mae 96% o'r gofal sy'n cael ei ddarparu i bobl mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru yn cael ei roi yn wirfoddol gan deulu a ffrindiau.
I gefnogi'r gwaith o ddarparu hawliau ychwanegol i ofalwyr dan y Ddeddf mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, wedi sefydlu tair Blaenoriaeth Genedlaethol i Ofalwyr yng Nghymru:
- Helpu i fyw yn ogystal â gofalu;
- Adnabod a chydnabod gofalwyr;
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr.
Er mwyn goruchwylio'r gwaith o gyflawni'r canlyniadau i ofalwyr yn erbyn y blaenoriaethau hyn, mae Grŵp Cynghori'r Gweinidog yn cael ei sefydlu. Bydd yn fforwm cenedlaethol i lywio'r gwaith o ddarparu'r gwelliannau i ofalwyr ynghyd ag ymateb ar draws pob sector i'r heriau maent yn eu hwynebu.
Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:
"Nid yw'n syndod bod gofalwyr yn gallu esgeuluso eu hiechyd a'u lles eu hunain wrth iddyn nhw ymrwymo i ofalu am eu hanwyliaid yn eu teulu a'r gymuned ehangach.
“Mae ein hymrwymiad i hawliau gofalwyr i’w weld yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Mae’r Ddeddf bellach ar waith ers dwy flynedd, a drwy gymorth y Grŵp Cynghori'r Gweinidog newydd, rydw i am sicrhau bod yr hawliau ychwanegol hyn i ofalwyr yn cael eu gwireddu.
“Os oes gan ofalwyr anghenion cymwys, mae'n rhaid i'w hawdurdod lleol ddiwallu'r anghenion hynny drwy gynllun cymorth i ofalwyr.
"Rydw i am annog pob gofalwr i sicrhau ei fod yn cael asesiad o'i anghenion. Mae'n hollbwysig i ofalwyr edrych ar ôl eu hunain wrth ofalu am eu hanwyliaid."