Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gyfan-gwbl i wella canlyniadau i gymunedau tlotaf Cymru a chefnogi cyfleoedd ar gyfer ffyniant economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyma'r neges gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, wrth i'r ystadegau diweddaraf yn dangos yr amddifadedd cymharol ledled Cymru gael eu cyhoeddi.

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) 2019 yw mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer 1,909 o ardaloedd bychain yng Nghymru. Mae'n nodi lleoliadau sydd â'r dwysedd uchaf o wahanol fathau o amddifadedd ac yn cael ei ddefnyddio i lywio polisïau, dyrannu adnoddau, a gwasanaethau i ardaloedd.

Mae WIMD yn mesur wyth o wahanol fathau o amddifadedd - incwm, gwaith, iechyd, addysg, mynediad at wasanaethau, tai, yr amgylchedd gorfforol a diogelwch cymunedol - gyda'r mynegai ar gyfer 2019 yn dangos pocedi o amddifadedd uchel cymharol yn ninasoedd De Cymru a'r cymoedd, ac o fewn rhai o drefi arfordirol a ffiniol Gogledd Cymru.

Mae WIMD 2019 yn dangos mai Casnewydd yw'r awdurdod lleol sydd â'r gyfran uchaf o ardaloedd bychain sydd o fewn y 10% â'r amddifadedd uchaf yng Nghymru. Nid oes gan Sir Fynwy unrhyw ardaloedd yn y 10% sydd â'r amddifadedd mwyaf, ac mae gan Bowys 1.3%.

Mae'r mynegai hefyd yn datgelu mai St James 3, sy'n cynnwys rhan fawr o ystâd Lansbury Park yng Nghaerffili, oedd yr ardal â'r amddifadedd mwyaf yn WIMD 2014, sydd bellach y drydedd ardal â'r amddifadedd mwyaf, yn dilyn dwy ardal fechan yn Y Rhyl.

Wrth siarad ar ôl i'r mynegai ar gyfer 2019 gael ei ryddhau, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llawn i ddefnyddio dull ar draws y Llywodraeth o fynd i'r afael â thlodi.

Trwy ein Cynllun Gweithredu Economaidd rydym yn gweithio i sbarduno twf yr economi yng Nghymru, lledaenu cyfleoedd a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau, fel y gallwn sicrhau bod manteision twf economaidd cynaliadwy yn cael eu teimlo mor eang â phosibl. 

Rydym hefyd yn defnyddio ein Cynllun Cyflogadwyedd i roi cymorth wedi'i deilwra i bobl, gan gynnwys y rhai hynny sydd bellaf oddi wrth y farchnad swyddi, er mwyn cynyddu sgiliau a helpu pobl gael gwaith a datblygu eu gyrfaoedd.

Mae ein rhaglenni megis Dechrau'n Deg, Cymunedau am Waith, Grant Amddifadedd Disgyblion a Teuluoedd yn Gyntaf hefyd yn hanfodol er mwyn lleihau'r bwlch rhwng ein hardaloedd mwyaf difreintiedig a'n hardaloedd sy'n ffynnu.

Mae lledaenu llewyrch a mynd i'r afael â thlodi yn ymrwymiad sy'n cael blaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru, ond rydym yn gweithio yn erbyn y cefndir llym ac anodd o ddegawd o gyni. Nid oes amheuaeth bod yr heriau'n parhau ond byddwn yn brwydro'n ddiflino am Gymru mwy cyfartal a llewyrchus ble y caiff bawb y cyfle i ffynnu a llwyddo.