Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r mis hwn yn gweld Croeso Cymru yn cynnal ei ymgyrch ddigidol gyntaf erioed yng Nghymru. Bydd yn annog y rhai sydd heb os yn gwybod mwy am Gymru na neb arall, sef pobl Cymru, i rannu delweddau o'u hoff leoedd a sut maen nhw'n eu mwynhau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae hefyd gyfle i gael eich cynnwys yn hysbysebion Croeso Cymru, gan y bydd y lluniau gorau sy'n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhan o gam nesaf yr ymgyrch.

Y Flwyddyn Darganfod yw’r amser perffaith i ailddarganfod lleoedd o'ch plentyndod, neu ganfod cornel newydd o Gymru. Hoffai Croeso Cymru i gynifer ohonoch â phosibl fod yn rhan o'r ymgyrch. Beth sy'n gwneud Cymru mor arbennig? Ble rydych yn hoffi treulio eich penwythnosau yng Nghymru? Ble mae eich hoff draeth neu dafarn neu eich hoff le i fynd am dro? Gallwch rannu'r adegau arbennig hyn yng Nghymru drwy dagio #FyNghymru pan fyddwch yn postio ar Instagram neu Pinterest.

Mae'r farchnad yng Nghymru yn arbennig o bwysig inni. Yn 2017 aeth 1.47 miliwn o breswylwyr Cymru i ffwrdd i aros dros nos yng Nghymru. Mae hyn yn cyfrif am 16% o bob arhosiad dros nos yng Nghymru gan bobl o Brydain, a chreodd y teithiau hyn £228 miliwn ar gyfer economi Cymru.

Hefyd, ymwelodd 62 miliwn o drigolion Cymru â lleoliadau yng Nghymru am y diwrnod. Mae hyn yn cyfrif am 63% o'r holl ymweliadau yng Nghymru. Y gwariant ar y teithiau hyn oedd £2.21 biliwn.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth,

"Gyda phenwythnos y Pasg yn prysur nesáu, mae hon yn adeg wych i bobl Cymru rannu'r pethau sy'n gwneud Cymru yn arbennig iddyn nhw – y balchder a'r angerdd sy'n bwysig, ac yn aml pobl Cymru yw'r bobl orau i farchnata’r hyn sydd ar gael yn lleol.

"Gyda'r ansicrwydd ynghylch Brexit mae'n bosibl y bydd rhagor o bobl yn cael eu gwyliau yn y wlad hon eleni. Mae ymgyrch farchnata ddigidol wedi'i thargedu yn golygu bod Cymru mewn sefyllfa gref i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd hyn.

"Mae momentwm y gwaith marchnata wedi bod yn cynyddu ers yn gynnar ym mis Mawrth yn y marchnadoedd allweddol, er mwyn cydnabod y gystadleuaeth gref yn y farchnad ddomestig – i sicrhau mai Cymru yw'r dewis cyntaf fel cyrchfan gwyliau yn ystod ein Blwyddyn Darganfod."

Fel rhan o visitwales.com ar ei gwedd newydd, mae enwogion fel  Alex Jones, Matthew Rhys a Huw Stephens eisiau wedi rhannau eu hoff bethau am Gymru www.croeso.cymru/cy.