Mae TB gwartheg yng Nghymru yn gyffredinol yn parhau i ostwng, ond rydym am dargedu'r ardaloedd lle ceir problemau o hyd a chynnal prosiectau penodol yn Sir Benfro ac Ynys Môn.
Mewn datganiad i'r Senedd heddiw [dydd Mawrth, 14 Tachwedd], dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod achosion newydd wedi gostwng dros 18% yn y 12 mis hyd at fis Mehefin eleni, o'i gymharu â'r un cyfnod bum mlynedd yn ôl - ac mae nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu difa i reoli TB hefyd wedi gostwng, bron 5%.
Mae Prosiect TB Sir Benfro yn mynd rhagddo gyda'r tîm yn cydweithio gyda 15 fferm a ddewiswyd gan y chwe milfeddygfa leol sy'n cymryd rhan.
Mae'r prosiect yn cynnwys treialu dulliau newydd yn ogystal â dilyn y mesurau statudol sy'n bod eisoes. Mae'r dulliau newydd hyn yn golygu cydweithio rhwng y ffermwyr a'u milfeddygon i ddatblygu mesurau wedi'u teilwra ar lefel buches, gan gynnwys mesurau bioddiogelwch llymach a rheoli anifeiliaid risg uchel.
Dywedodd y Gweinidog hefyd am y sefyllfa ar Ynys Môn lle mae mesurau ychwanegol gan gynnwys profion cyn symud yn cael eu cyflwyno.
Mae'r newidiadau a ddaw fel rhan o'r Cynllun Cyflawni pum mlynedd a gyhoeddwyd yn gynharach eleni yn cynnwys, o fis Chwefror 2024, ailgyflwyno Profion Cyn-Symud ar wartheg sy'n cael eu symud o ac o fewn yr Ardal TB Isel. Hefyd, caiff y gofyn i gynnal Profion ar ôl Symud yn yr Ardaloedd TB Canolradd ei estyn a chaiff gwybodaeth am fuchesi heb TB ei dangos ar ibTB er mwyn i ffermwyr allu gwneud penderfyniadau prynu gwybodus.
Rydym wrthi'n recriwtio aelodau newydd ar Fwrdd y Rhaglen Dileu a'r Grŵp Cynghori Technegol ac mae Llywodraeth Cymru yn annog y rhai sydd â'r sgiliau a'r profiad perthnasol i wneud cais erbyn diwedd y mis.
Ailadroddodd y Gweinidog y byddwn yn edrych ato ar y polisi lladd ar y fferm, yn enwedig ar gyfer anifeiliaid sy'n drwm â llo, a bydd yn bwnc y bydd y Grŵp Cynghori Technegol yn ei ystyried ar frys.
Meddai'r Gweinidog:
Er bod darlun TB gwartheg yn newid trwy'r amser, hoffwn bwysleisio'r tueddiadau pwysig, hirdymor sy'n dangos bod llai o fuchesi â TB a bod llai o achosion newydd mewn buchesi yn gyffredinol ar draws Cymru.
Fel y gwnes i ei bwysleisio ym mis Mawrth, mae'r Cynllun Cyflawni yn canolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth. Ni fydd y Llywodraeth yn gallu dileu TB ar ei phen ei hun.
Fel nad oes byth dwy fferm union yr un fath, nid oes dau achos o TB union yr un fath, ac mae lefelau TB yn amrywio o ardal i ardal yng Nghymru. Felly, mae'n hanfodol bod ffermwyr yn gweithio'n glos gyda'u milfeddyg i amddiffyn eu buchesi a chadw TB allan, yn ogystal ag i ddelio â'r clefyd os bydd yn taro.
Mae Prosiect Sir Benfro yn enghraifft wych o fenter gydweithredol dan arweiniad diwydiant – sy'n chwilio am ffyrdd newydd i filfeddygon a ffermwyr wneud penderfyniadau gwybodus gyda'i gilydd i atal a rheoli'r clefyd, ar lefel buches.
Rwy'n ymwybodol iawn hefyd o effaith TB gwartheg ar iechyd a lles ffermwyr a'u bywoliaethau. Mae iechyd meddwl a lles y rheini sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth yn destun pryder mawr i mi.
Dyna pam rydyn ni'n benderfynol o ddileu TB gwartheg. Dim ond trwy weithio gyda'n gilydd y gwnawn ni hynny.
Rwy'n galw ar y diwydiant ffermio a'r proffesiwn milfeddygol i uno â'r Llywodraeth a'i phartneriaid i weithredu i wireddu'r nod o ddileu TB yng Nghymru erbyn 2041. Mae'n darged uchelgeisiol, ond mae'n un y gallwn ei daro cyn belled â bod pawb dan sylw yn cefnogi, yn cyfranogi ac yn cydweithredu.