Neidio i'r prif gynnwy

"Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gau llysoedd ledled Cymru ac i gyfyngu ar y cymorth cyfreithiol sydd ar gael yn bygwth hawliau cymdeithasol a dynol pobl i gael mynediad i'r system gyfiawnder."

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ei araith allweddol gyntaf ers cael ei benodi’n swyddog cyfraith a phrif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol fod  canlyniadau polisi cyni Llywodraeth y DU wedi golygu bod Gweinidogion y DU yn rhoi mwy o bwyslais ar dorri costau gweinyddu cyfiawnder, yn hytrach na diogelu a chynnal hawliau pobl i gael mynediad i’r system gyfiawnder - sy'n hanfodol er mwyn creu cymdeithas decach a mwy cyfartal.

Ac yntau’n siarad yn Ysgol y Gyfraith,  Prifysgol Caerdydd, dywedodd Mr Antoniw:

"Mae'r system gyfreithiol yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd; ni fu mynediad i gyfiawnder a gweinyddu cyfiawnder ym Mhrydain erioed wedi bod mor brin a chyfyngedig ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Erbyn hyn, baich yw’r gyfraith i rannau cyfan o boblogaeth Cymru a'r Deyrnas Unedig yn hytrach nag arf grymuso a rhyddfreinio.

"Fel y dywedodd Llywydd Cymdeithas y Cyfreithwyr ar y pryd, Andrew Caplen, mewn araith yn 2014, ‘the rule of law is rightly regarded as being the foundation of any democratic society. But the rule of law is meaningless if there is no access to justice. It is pointless to be granted rights if you have no way of enforcing them.’

"Mae diddymu cymorth cyfreithiol i’r mwyafrif o bobl ym maes cyfraith lles cymdeithasol, cyfraith teulu, tai a dyled, yn fwy na dim ond cyfyngu’n ar fynediad i gyfiawnder. Mae'r newidiadau a welwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf wedi rhoi diwedd ar y consensws ideolegol a wnaed yn 1945 rhwng pleidiau gwleidyddol ledled y DU mai hawl gymdeithasol a dynol sylfaenol yw mynediad i gyfiawnder sy’n gwbl hanfodol wrth greu cymdeithas decach a mwy cyfartal.  

"Un o egwyddorion eraill mynediad i’r gyfraith yw y dylai llysoedd a  thribiwnlysoedd gael eu lleoli mewn cymunedau lleol gyda barnwyr, ynadon a chadeiryddion tribiwnlysoedd sy’n adnabod ac yn deall y gymuned. Mae’r cyhoeddiad diweddar bod deg o adeiladau llysoedd ychwanegol yn mynd i gau yn tanseilio’r egwyddor hon yn enbyd. Torri costau sydd wrth wraidd y bwriad i gau’r llysoedd hyn yn hytrach nag effeithlonrwydd wrth weinyddu cyfiawnder.”