Neidio i'r prif gynnwy

Nod a methodoleg ymchwil

Mae Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn ‘swyddogaeth’ neu ‘dan berchnogaeth’ tîm, wedi’i redeg a’i boblogi gan staff Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) sydd wedi’u cyflogi i gyflawni swyddogaethau penodol i roi cymorth i’r trydydd sector ledled Cymru parthed rhaglenni ESIF 2014 i 2020. Yn ogystal, mae’r tîm yn cynrychioli’r trydydd sector yn rhaglenni ESIF 2014 i 2020 ac yn cyfeirio at gronfeydd Ewropeaidd eraill megis Erasmus+ a Horizon 2020. Ariennir y gwasanaeth drwy'r ffrwd 'Cymorth Technegol' sydd wedi'i chynnwys ym mhob un o bedair rhaglen weithredol ESF ac ERDF. Rhagamcanwyd y byddai cyfanswm y gost o weithredu y gwasanaeth dros ei chyfnod bywyd o wyth mlynedd yn £2,526,984 gyda £1,779,368 wedi'i ymrwymo o Gronfeydd Strwythurol yr UE.  

Yn ei ffurf bresennol, mae gan 3-SET 2014-2020 dri amcan, sef.

  1. Cynyddu ymwybyddiaeth ymysg sefydliadau’r trydydd sector am Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd (ESIF) a rhaglenni Ewropeaidd eraill sydd ar gael yng Nghymru.
  2. Cynyddu ymgysylltiad y trydydd sector i weithredu rhaglenni’r ESIF yn ystod cyfnod ariannu 2014-2020.
  3. Gwella cyfrannau cydymffurfio a lleihau’r risgiau yng nghyswllt cyflawni prosiectau yn y trydydd sector.

Mae’r amcanion hyn i’w cyflawni trwy bedwar llinyn gweithgarwch.

  1. Gwybodaeth a chyngor.
  2. Hyfforddiant a digwyddiadau.
  3. Trefnu rhwydweithiau a rhwydweithio.
  4. Cynrychioli a hyrwyddo’r trydydd sector.

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Wavehill i gynnal gwerthusiad ar ganlyniadau a phrosesau Tîm Ewropeaidd y Trydydd Sector (3-SET) yn 2020. Bydd canfyddiadau’r gwerthusiad hwn – a gyflwynir yn yr adroddiad hwn – nid yn unig yn hysbysu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â pherfformiad 3-SET, ond hefyd yn helpu i lywio dull gweithredu 3-SET ar ôl Brexit, yn ogystal â llywio gweithgareddau 3-SET am weddill cyfnod rhaglennu 2014-2020 a thu hwnt.[1]

[1] Mae’r 3-SET yn parhau i weithredu o dan reolau cymhwysedd cenedlaethol Cymru a chamau gweithredu cymwys fel y’u diffinnir yn yr amcan penodol perthnasol a gynhwysir ym mhob un o raglenni gweithredol 2014-2020.  Gweler Rhaglen Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014 i 2020: rhaglen weithredol | LLYW.CYMRU. Cronfeydd Strwythurol yr UE 2014 i 2020: canllawiau rheolau cymhwystra ac amodau | LLYW.CYMRU.

Mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio ar waith 3-SET a’r gwerthusiad. Roedd rhaid cynnal gweithgareddau 3-SET o bell, a hynny’n golygu newid y cyfarfodydd rhwydweithio a’r hyfforddiant i fod ar-lein. Yn yr un modd, roedd yn rhaid casglu data’r gwerthusiad o bell. Oherwydd effaith y pandemig ar allu staff yn y sefydliadau i gymryd rhan yn y gwerthusiad, roedd y cyfraddau ymateb gan sefydliadau ychydig yn is na’r disgwyl.

Roedd y fframwaith gwerthuso (a ddatblygwyd ar y cyd â rheolwyr a rhanddeiliaid allweddol 3-SET) wedi nodi’r canlynol i fod yn brif gwestiynau ymchwil er mwyn archwilio’r effaith a gafwyd.

A yw 3-SET wedi:

  • Llwyddo i annog sefydliadau’r trydydd sector i ymgeisio am Gronfeydd Strwythurol pan na fyddent fel arall efallai wedi gwneud hynny?
  • Rhoi arweiniad clir ac effeithiol sydd wedi cefnogi sefydliadau’r trydydd sector i ymgeisio’n llwyddiannus am Gronfeydd Strwythurol?
  • Rhoi arweiniad clir ac effeithiol sydd wedi cefnogi sefydliadau’r trydydd sector i weithredu prosiectau’r Cronfeydd Strwythurol yn llwyddiannus?
  • Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithredu yn y trydydd sector?
  • Brocera cysylltiadau yn llwyddiannus rhwng y trydydd sector, WEFO, partneriaid rhanbarthol ac/neu awdurdodau lleol?
  • Cefnogi sefydliadau i gyflawni’r Themâu Trawsbynciol?

Casglwyd data drwy gyfweliadau ansoddol gyda phersonél rheoli (n=7) a rhanddeiliaid ehangach (n=10); cyfweliadau lled-strwythuredig gyda buddiolwyr (n=52); arolwg ar-lein o 59 o sefydliadau eraill sydd wedi elwa neu nad oeddent wedi ymgysylltu â'r 3-SET; Gweithdy gyda rhanddeiliaid allweddol; adolygiad o ddata monitro a gwerthuso prosiectau a'r cynlluniau a'r polisïau cyflawni prosiect perthnasol.

Prif ganfyddiadau

Disgwylir i 3-SET ragori ar ei darged nifer y digwyddiadau hyfforddi a gynhaliwyd er mwyn cyflawni’i dargedau lledaenu gwybodaeth a datganiadau i’r wasg a chyrraedd 90 y cant o’i darged cylchlythyrau a gyhoeddwyd. Ailosodwyd y targedau yn dilyn Brexit er mwyn cyfrif am y llai o ffocws ar hyfforddiant, ond dywedodd personél rheoli fod hynny wedi arwain at sgil-effaith o ran pa mor ddefnyddiol oedd y cylchlythyrau a’r angen am gynifer ohonynt. Yn sgil hyn, gwnaed penderfyniad i anfon llai o gylchlythyrau mewn cytundeb â WEFO.

Mae 3-SET hefyd wedi ymgysylltu’n uniongyrchol â’r strwythurau llunio polisi ffurfiol yng Nghymru a thu hwnt, yn bennaf trwy ymateb i ymgynghoriadau, cyflwyno tystiolaeth i ymholiadau pwyllgorau Cymru a’r Deyrnas Unedig, ac ymchwilio a chyhoeddi adroddiadau ymchwil a thystiolaeth. Yn gyfan gwbl, hyd yma, mae 3-SET wedi ymateb i 15 ymgynghoriad neu ymholiad yng Nghymru neu’r DU, wedi cyfrannu at Grŵp Cynghori ar Brexit yr Ysgrifennydd Gwladol, wedi cyflwyno sylwadau i Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2020, ac wedi cyhoeddi adroddiad ‘Grymuso Cymunedau yng nghyd-destun Brexit’. Yn ogystal, mae 3-SET wedi mynychu a chyfrannu at 16 o rwydweithiau ffurfiol yn amrywio o rwydweithiau trawswladol Iwerddon-Cymru i’r Glymblaid Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ac i rwydweithiau sy’n ymwneud â datblygu rhaglenni newydd a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

O ran effaith y gwaith ymgysylltu polisi hwn, mae'r gwerthuswyr yn cynnig fod rheswm, yng Nghymru o leiaf, dros gredu bod negeseuon y 3-SET yn cael eu clywed a'u hystyried. Fodd bynnag, roedd rhanddeiliaid yn llai hyderus o ran effeithiolrwydd ymgysylltu â strwythurau polisi'r DU, gan awgrymu fod llai o ddealltwriaeth o'r trydydd sector yng Nghymru yn San Steffan a Whitehall fel heriau posibl.

Awgrymodd mwyafrif sylweddol o’r rhai a gyfwelwyd fod o leiaf un maes o’u gweithrediad neu eu sefydliad wedi’i wella neu ei ddatblygu oherwydd y gefnogaeth gan 3-SET. Soniodd buddiolwyr hefyd am effeithiau meddal ond gwerthfawr megis mwy o hyder wrth ymwneud â gofynion cyllid Ewropeaidd a bodloni’r gofynion hynny. Awgrymodd mwyafrif y cyfweleion hefyd fod y newidiadau’n barhaol neu y byddent yn aros yn eu lle tan (o leiaf) ddiwedd oes y prosiect.

Awgryma’r data yn gryf fod 3-SET yn annog sefydliadau i wneud cais am arian pan yn addas. Ychydig iawn o’r rhai a gyfwelwyd a nododd nad oedd 3-SET wedi gwneud hynny, a allai fod yn gysylltiedig ag ymgais fwriadol ar ran y tîm i feithrin disgwyliadau realistig o ran gofynion cydymffurfio cyllid Ewropeaidd; mewn geiriau eraill, er y byddai sefydliadau (yn ddelfrydol) yn ymgeisio, mae 3-SET yn credu nad yw rhai sefydliadau mewn sefyllfa dda bob amser ac mai’r penderfyniad cywir fyddai peidio ag ymgeisio.

Awgrymodd buddiolwyr fod 3-SET yn annog eu ceisiadau mewn sawl ffordd, yn fwyaf arbennig trwy gynnig a rhoi cefnogaeth gyson trwy gydol y broses ymgeisio, trwy godi ymwybyddiaeth am y cyllid a’u gofynion, a thrwy gynyddu hyder darpar ymgeiswyr.  Gwnaed hyn yn bennaf drwy'r cylchlythyrau a digwyddiadau a gynhaliwyd gan y 3-SET.

Roedd buddiolwyr hefyd o’r farn fod 3-SET wedi darparu canllawiau effeithiol i’w cefnogi i wneud cais llwyddiannus am gyllid. Yn wir, ni chafwyd awgrym gan neb nad oedd 3-SET wedi eu cefnogi i ryw raddau, gyda’r mwyafrif yn credu eu bod wedi gwneud hynny i raddau helaeth. Cyngor ac adolygiadau parhaus ac weithiau anffurfiol o ffurflenni oedd y ffordd fwyaf cyffredin y gwnaed hyn.

O ran cyflawni, buddiolwyr o'r farn bod y 3-SET wedi darparu canllawiau effeithiol i gefnogi'r gwaith o gyflawni eu prosiectau. Mae sefydliadau wedi cael eu cefnogi yn aml drwy gymorth i wella gweithdrefnau monitro a chydymffurfio. Mae’r tîm hefyd wedi hwyluso a chefnogi ymgysylltiad uniongyrchol â WEFO.

Awgrymodd mwyafrif sylweddol y sefydliadau fod y tîm wedi hyrwyddo rhwydweithio a chydweithredu yn y trydydd sector. Ystyriwyd mai 3-SET a’r digwyddiadau oedd y prif ffyrdd y gwnaed hyn. Fodd bynnag, soniodd llawer o fuddiolwyr hefyd am y cyfleoedd rhwydweithio posibl yr oedd digwyddiadau hyfforddi yn eu cynnig.

Teimlai dros hanner y rhai a gyfwelwyd fod 3-SET wedi broceru cysylltiadau o’r fath gyda WEFO, partneriaid rhanbarthol a/neu awdurdodau lleol i ryw raddau neu fwy. Er mai digwyddiadau oedd y brif ffordd ffurfiol o wneud hyn, dywedodd llawer eu bod wedi datblygu rhwydweithiau a pherthnasoedd drwy gyflawni prosiectau. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos sefydliadau sy’n cyflawni ar ran rhaglenni mwy o faint. Awgryma’r data hefyd fod llysgenhadon a rhannu gwybodaeth ac arfer da hefyd yn meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth a oedd yn cefnogi brocera cysylltiadau yn llai uniongyrchol.

Er mai cysylltiadau ag awdurdodau lleol a sefydlid amlaf, mynegodd sefydliadau, er hynny, awydd i ddatblygu mwy o gysylltiadau â chynghorau. Ar ben hynny, soniodd sefydliadau am awydd i ymgysylltu â phartneriaid y tu allan i’r trydydd sector, yn ogystal â gwneud gwaith mwy cydweithredol yn y dyfodol. Cyfeiriodd rhai buddiolwyr hefyd at gyfleoedd cyllido yn y dyfodol megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac awydd i gydweithredu â sefydliadau eraill, neu hyd yn oed i greu consortia i gyflawni prosiectau ar raddfa fwy o faint.

Yn olaf, mae’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y trydydd sector yn aml yn gwneud cyfraniad fertigol i’r themâu trawsbynciol, h.y. mae’r prosiectau a’r gwaith a wneir yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â’r themâu. Teimlwyd bod hyn, ar y naill law, yn gryfder penodol yng ngwaith y trydydd sector, ond hefyd ar y llaw arall yn faes y mae’r sector yn hanesyddol wedi ei chael yn anodd ei dystiolaethu. Yn ôl y data gan fuddiolwyr, fodd bynnag, awgrymir bod 3-SET wedi gweithio i fynd i’r afael â’r diffygion hyn. Awgrymir yn gryf yn nata’r cyfweliadau fod 3-SET wedi cefnogi sefydliadau mewn amryw o ffyrdd mewn perthynas â’r themâu trawsbynciol. Mae llawer o’r gefnogaeth yn broses o ddiffinio’r themâu a dangos neu egluro ymhle a sut y gallai’r sefydliadau dystiolaethu eu cyfraniadau yn effeithiol ac yn effeithlon.

Cafodd y tîm rheoli eu ganmol yn eang am ddarparu cymorth effeithiol ac effeithiol i'r sector. Yn fwy na hynny, mae sefydliadau a rhanddeiliaid yn eu parchu’n fawr am eu harbenigedd ymarferol a thechnegol, ac am eu proffesiynoldeb a’u profiad. Mae’r berthynas dda a phersonol a ddatblygwyd dros y blynyddoedd yn amlwg yn ffactor allweddol sydd wedi at arwain at ffydd yn y tîm.

Paratoi ar gyfer y dyfodol

Mae’r sector yn wynebu ystod o heriau yn y blynyddoedd i ddod. Credir bod COVID-19 wedi rhwystro neu oedi ymdrechion sefydliadau i fynd i’r afael â’r heriau a ddaw yn sgil diwedd cyllid Ewropeaidd.  Roeddent, serch hynny, yn ymwybodol bod her cyllid yr UE yn dod i ben yn un sylweddol, er ei bod yn rhywbeth y deellir sy’n her tymor hirach, i gael sylw ar ôl y pandemig. At hynny, awgrymodd rhanddeiliaid fod heriau cynnal yr ariannu a’u gwaith cyflenwi yn heriau mwy taer, tra bod sefydliadau hefyd yn debygol o weld cynnydd yn y galw am wasanaethau, ar yr un pryd â llai o refeniw yn dod o weithgareddau codi arian.

Mae'n ymddangos bod risg felly, nad oes gan sefydliadau’r trydydd sector, yn bennaf oherwydd heriau pandemig COVID-19, y capasiti i fynd i’r afael yn effeithiol ag etifeddiaeth a chynllunio i’r dyfodol, ac efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnynt dros y tymor byr i dymor canolig. Efallai y bydd 3-SET yn gwneud cyfraniad gwerthfawr yn hyn o beth yn y blynyddoedd olaf.

Awgryma’r data y bydd angen a galw am blatfform tebyg sy’n rhoi cymorth technegol tebyg i 3-SET ar ôl diwedd cyllid Ewropeaidd. Dylai union ffurf a strwythur y platfform hwn gael ei ddylunio drwy roi ystyriaeth i anghenion cymorth y sector a phrofiad 3-SET. Mae’n debygol mai’r angen mwyaf i’r platfform fydd cefnogi ymgysylltiad â rhaglenni buddsoddi strwythurol mawr a allai gymryd lle cyllid Ewropeaidd yn y dyfodol. Mae’n debyg y bydd ei gyfraniad mwyaf gwerthfawr yn a) cefnogi’r trydydd sector i gael gafael ar y cyllid, a b) parhau â’r cymorth technegol effeithiol sydd wedi galluogi’r trydydd sector i fod yn llwyddiannus wrth ymgeisio, cyflenwi ac ychwanegu gwerth at raglenni buddsoddi strategol. Fodd bynnag, blaenoriaeth fydd galluogi’r trydydd sector i gael mynediad at gronfeydd o’r fath. Her cyn hynny, felly, fydd cyflwyno’r achos fod trydydd sector Cymru yn gallu cyflawni buddsoddiadau strategol, yn ogystal â phwyso ar lunwyr polisi wrth iddynt ddylunio unrhyw strwythurau cyllido bod mawr angen cadw mewn cof drydydd sector Cymru, ei gapasiti a’i anghenion.

Argymhellion

I grynhoi, mae'r adroddiad yn argymell:

  • archwilio dichonoldeb a dulliau posibl o hyrwyddo'r gwasanaeth yn fwy effeithiol
  • archwilio cyfleoedd i ddod â sefydliadau i gysylltiad ag awdurdodau lleol yn amlach a darpar bartneriaid at ei gilydd, gan gynnwys y rhai o'r tu allan i sector, i gydweithio (e.e. ar geisiadau am gyllid)
  • ymchwilio i'r ffyrdd y gall gwaith y 3-SET mewn perthynas ag arian newydd fod o fudd i sefydliadau y tu hwnt i'r rhai sy'n derbyn cyllid ESIF y cylch hwn
  • asesu'r cynnydd a wnaed o fewn y sector wrth baratoi ar gyfer diwedd cyllid Ewropeaidd, a'r anghenion cymorth ychwanegol sydd gan sefydliadau yn awr.
  • ystyried hyrwyddo'r trydydd sector yng Nghymru, ei anghenion a'i ofynion, ei allu i gyflawni prosiectau sy'n ymwneud â rhaglenni buddsoddi strategol, a'r gwerth ychwanegol a'r cyrhaeddiad y mae'n ei gynnig, fel blaenoriaeth ar gyfer y blynyddoedd sy'n weddill; dylid ystyried strwythurau ariannu newydd sy'n dod i'r amlwg yn 'darged' a blaenoriaeth ar gyfer y gwaith hyrwyddo hwn
  • yn dibynnu ar y ffurf y mae strwythurau fel y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ei chymryd, dylai'r 3-SET ystyried ei rôl wrth baratoi'r ar gyfer cymorth o'r fath
  • o ystyried y farn gyffredinol y bydd angen llwyfan o'r fath yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru ystyried tîm 3-SET a'i arbenigedd/profiad, fel modd o ychwanegu gwerth at unrhyw lwyfan newydd sy'n cynnig cymorth technegol a hyrwyddo trydydd sector Cymru

Casgliadau

Mae’r dystiolaeth a’r data a archwiliwyd ar gyfer yr adroddiad hwn yn awgrymu bod 3-SET wedi bod, ac yn debygol o barhau i fod, yn wasanaeth effeithiol, gwerthfawr, angenrheidiol a mawr ei effaith i’r trydydd sector yng Nghymru. Yn fwy na hynny, mae achos i’w ddadlau y gallai ei gyfraniad yn yr ychydig flynyddoedd olaf fod yn fwyaf gwerthfawr mewn perthynas â’r dyfodol, wrth baratoi sefydliadau i gael mynediad at strwythurau cyllido newydd ac i lobïo dros y sector a’i fynediad at strwythurau buddsoddi amgen ar lefel strategol a pholisi.

Manylion cyswllt

Awduron : Dyfan Powel, Anna Burgess a Sam Grunhut (Wavehill)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Charlotte Guinee
E-bost: rme.mailbox@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 51/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-658-1

Image
GSR logo

 

 

 

 

Image
European Social Fund logo

 

 

 

 

 

 

Image