Neidio i'r prif gynnwy

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o becyn eang o fesurau sydd wedi’u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi rhieni a theuluoedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhaglen sy’n ymyrryd yn gynnar, sydd wedi ei anelu at wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a theuluoedd. Bwriad y rhaglen yw lleihau nifer y teuluoedd sy’n datblygu anghenion cymhleth sy’n gofyn am fwy o ymyriadau dwys a chostus yn hwyrach ymlaen.

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhan o becyn eang o fesurau sydd wedi’u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi rhieni a theuluoedd.

Mae’r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos y darlun a ganlyn ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2015 a Mawrth 2017:

  • Mae 77% neu 12,665 o rieni wedi elwa o ganlyniad i ymyrraeth o ran magu plant.
  • Mae gallu 80% neu 12,567 o rieni wedi gwella o ran cefnogi anghenion dysgu a datblygu eu plant.
  • Mae llesiant emosiynol/meddyliol 78% neu 43,111 o deuluoedd wedi gwella.
  • Mae 73% neu 23.395 o deuluoedd wedi dweud bod deinameg y teulu wedi gwella.
Yn ddiweddarach heddiw, bydd y Gweinidog yn ymweld â phrosiect Teuluoedd yn Gyntaf ym Mangor. Bydd yn gweld y gwaith sy’n cael ei wneud ganddynt i gefnogi teuluoedd.

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad cadarn i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau’r plant ieuengaf yn ein cymdeithas. Rydym yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i blant a phobl ifanc drwy ymyrryd yn gynnar a dulliau atal. 

“Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn rhoi tîm o staff arbenigol iawn o gwmpas y teulu. Mae’n annog teuluoedd i gymryd rhan yn y broses o adnabod problemau a ffyrdd i’w datrys, gan gydnabod y cryfderau a’r adnoddau o fewn y teulu.

“Rwy wrth fy modd bod cymaint o deuluoedd wedi cael help sydd wedi ei dargedu gan y timau Teuluoedd yn Gyntaf ledled Cymru – degau o filoedd o deuluoedd yn llythrennol. Mewn llawer o’r achosion hynny, mae’r gwaith a wneir gan y timau wedi newid bywydau.”