Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r actores Ruth Jones o'r gyfres Gavin and Stacey, sy’n enwog yng Nghymru a thrwy'r byd fel y cymeriad Nessa, wedi cael gwobr arbennig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd cyd-awdur y gyfres yn sicr o fod wedi gofyn 'what's occurring' pan gafodd ei gwobrwyo am fod wedi cipio calon y genedl a rhoi Cymru ar lwyfan y byd.

Gwnaeth miliynau o bobl wylio’r rhaglen a chafodd cyfraniad nodedig Ruth at fywyd diwylliannol ei gwlad ei gydnabod yng Ngwobrau Dewi Sant.

Enillwyr eraill oedd tîm Achub Mynydd Llanberis, a gafodd eu gwobrwyo am eu hymroddiad anhygoel i achub bywydau pobl.

A hwythau yn eu 12fed flwyddyn, mae gwobrau cenedlaethol Cymru yn cydnabod pobl o bob cwr o'r wlad mewn meysydd fel gwirfoddoli, dewrder, busnes a'r gymuned.

Cafodd tîm Achub Mynydd Llanberis eu canmol gan y beirniaid am eu dewrder, ac am fod yn hanfodol i wneud y mynyddoedd yn ddiogel.
Ymhlith yr enillwyr eraill yr oedd Justin Biggs a fentrodd ei fywyd trwy achub dau berson o du mewn i gar a oedd wyneb i waered yn y dŵr ger clwb hwylio Bae Caerdydd.

Wrth siarad yn y seremoni yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

Rwy'n falch iawn o gael dathlu llwyddiant ysgubol Ruth Jones. Mae hi wedi dangos cynhesrwydd a ffraethineb pobl Cymru i’r byd. Rydyn ni'n falch fod gennym dalent mor enfawr."

"Mae Ruth Jones (drwy Ness yn Gavin and Stacey) wedi’n galluogi ni fel Cymry i chwerthin amdanom ein hunain, ac am y pethau unigryw rydyn ni'n eu gwneud a'u dweud. Oherwydd hynny rydym wedi dod yn fwy hyderus a chyfforddus fel cenedl, ac mae hynny yn ei dro wedi arwain at bobl o bedwar ban byd yn dod i garu’r Cymry."

"Mae Ruth Jones wedi gwneud mwy i roi ein gwlad ar y map nag unrhyw un arall mewn degawdau – ac ni allwn fod yn fwy balch ohoni."

"Gwobrau eleni yw fy ngwobrau cyntaf fel Prif Weinidog, sy'n gwneud yr achlysur yn un arbennig iawn i mi."

"Mae wedi bod yn fraint cael anrhydeddu grŵp o bobl mor rhyfeddol o dalentog a dewr. Mae pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ysbrydoliaeth i ni i gyd.

Dywedodd Cadeirydd Panel Cynghori Gwobrau Dewi Sant 2025, yr Athro Jean White CBE:

Mae'r profiad o fod yn un o'r beirniaid wedi bod yn emosiynol weithiau wrth glywed straeon am ddewrder pobl ac am drechu adfyd i lwyddo. Mae'n gwneud i mi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes.

Cafodd pob enillydd dlws Gwobrau Dewi Sant, wedi'i ddylunio a'i wneud gan yr artist cerameg amlwg, Daniel Boyle o Geredigion.

Yr enillwyr yw:

  1. Person Ifanc: Dylan Buller
  2. Dewrder: Justin Biggs
  3. Busnes: Bad Wolf Ltd
  4. Arwr Cymunedol: Paul Bromwell
  5. Diwylliant: David Hurn
  6. Ceidwad yr Amgylchedd: Peter Stanley
  7. Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Immunoserv
  8. Gwasanaethu’r Cyhoedd: Patrick Watts
  9. Chwaraeon: Emma Finucane MBE
  10. Gwirfoddoli: Tîm Achub Mynydd Llanberis