Mae adroddiad hanner ffordd y gwaith o archwilio dyfodol Cymru yn awgrymu tri llwybr cyfansoddiadol hyfyw i’r wlad.
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru wedi bod yn casglu tystiolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ar sut caiff Cymru ei llywodraethu ar hyn o bryd, gan dros 2,000 o ddinasyddion, grwpiau arbenigol, a sefydliadau dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. Heddiw, rhyddhaodd y Comisiwn adroddiad interim ar y gwaith.
Mae’r grŵp o 11 o aelodau’r Comisiwn, a gyd-gadeirir gan yr Athro Laura McAllister a Dr Rowan Williams, yn cynnwys sbectrwm o gefndiroedd, arbenigedd, a safbwyntiau gwleidyddol. Daeth Llywodraeth Cymru â’r grŵp ynghyd ym mis Hydref 2021, ond mae’n gweithio’n annibynnol arni.
Tri llwybr cyfansoddiadol hyfyw
Yn ei adroddiad, mae’r Comisiwn yn dadlau nad yw’r sefyllfa bresennol yn opsiwn dichonadwy ar gyfer darparu sefydlogrwydd a ffyniant i Gymru.
Daw’r adroddiad i’r casgliad bod tri llwybr cyfansoddiadol dichonadwy ac amgen i sut gellid rhedeg Cymru, a allai wella bywydau dinasyddion Cymru. Y tri llwybr yw:
- Cryfhau a diogelu’r setliad datganoli presennol.
- Creu dull ffederal gyda chyfansoddiad newydd ar gyfer y Deyrnas Unedig sy’n creu cydraddoldeb rhwng Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
- Annibyniaeth, lle byddai Cymru yn dod yn wlad sofran, yn gymwys i wneud cais am aelodaeth lawn o sefydliadau rhyngwladol, fel y Cenhedloedd Unedig.
Datganoli dan bwysau, ond yn werth ei warchod
Mae’r Comisiwn yn credu bod y broses ddatganoli bresennol a ddechreuodd ar ôl refferendwm 1997 wedi bod yn gam mawr ymlaen i ddemocratiaeth Cymru. Ond mae ei adroddiad interim yn nodi pwysau sylweddol ar y ‘setliad’ presennol, gan nodi ‘anghydbwysedd grym’ i bobl Cymru o ran gallu dylanwadu ar bethau sy’n effeithio arnyn nhw.
Mae'r adroddiad yn nodi deg pwynt pwyso arwyddocaol ar gyfer datganoli. Mae ‘bregusrwydd’ y setliad datganoli a goruchafiaeth senedd San Steffan wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol democratiaeth Cymru yn cael eu datgan fel problemau critigol. Mae gwendid parhaus economi Cymru hefyd wedi’i restru fel problem sylfaenol sydd, o gymharu â’r Deyrnas Unedig, yn parhau i danberfformio.
Meddai’r Gwir Anrhydeddus a'r Gwir Barchedig Dr Rowan Williams, cyd-gadeirydd y Comisiwn:
“Er gwaethaf buddsoddiadau, mae economi Cymru yn dal i fod ar ei hôl hi, sy’n dangos bod problem strwythurol mae angen mynd i’r afael â hi. Mae hynny’n dweud wrthon ni nad yw economi Cymru yn gwneud yn dda o dan y sefyllfa bresennol. Ond pa opsiynau cyfansoddiadol, os o gwbl, fyddai’n ein galluogi i ddod yn wlad fwy llewyrchus a gwella bywydau pobl Cymru? Mae hyn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni barhau i’w archwilio.”
Diffyg cyfansoddiad y Deyrnas Unedig ‘bron yn unigryw’
Mae adroddiad y Comisiwn yn tynnu sylw at y ffaith bod y Deyrnas Unedig bron yn unigryw am nad oes ganddi gyfansoddiad ysgrifenedig. Mae’r Comisiwn yn nodi bod “cyfansoddiad anysgrifenedig” yn cymryd “sofraniaeth” San Steffan yn ganiataol, sy’n gosod cyfyngiadau sylweddol ar bobl Cymru a’u cynrychiolwyr etholedig i benderfynu sut y dylen nhw gael eu llywodraethu.
Meddai’r Athro Laura McAllister, cyd-gadeirydd y Comisiwn:
“Mae’r Undeb wedi cael gweithredu heb wiriadau ac amddiffynfeydd cadarn ar ei grym, ac ni fu hyn erioed yn fwy amlwg nag yn y tair blynedd diwethaf gyda llywodraeth sydd â mwyafrif mawr ac sydd wedi bod yn llai parod i rannu grym â sefydliadau eraill. Mae ein gwaith archwiliol dros y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn atgoffeb boenus nad yw diffyg cyfansoddiad ysgrifenedig yn gwarantu sefydlogrwydd i Gymru na llywodraethu da.
“Yn fwy nag erioed, mae’n amlwg mai’r unig ffordd i fynd i’r afael â’r heriau o ran y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu yw drwy gydnabod y gyd-ddibyniaeth o ran materion cyfansoddiadol ehangach yn y Deyrnas Unedig. Rydyn ni’n realistig iawn mai dim ond gyda chyfansoddiad ysgrifenedig y gellir cyflawni dau o’r tri llwybr cyfansoddiadol rydyn ni wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad yma.”
O safbwynt dinasyddion
Drwy ymgynghoriad ar-lein y Comisiwn, Dweud eich Dweud, casglwyd dros 2000 o ymatebion a roddodd fewnwelediad cynnar i safbwyntiau dinasyddion am y ffordd y caiff Cymru ei rhedeg ar hyn o bryd.
Y dewis cyfansoddiadol mwyaf poblogaidd oedd annibyniaeth, a ffafriwyd gan 55% (1096) o'r 2000+ o ymatebwyr i'r ymgynghoriad ar-lein. Er bod hyn yn arwyddocaol, mae'r Comisiwn wedi cydnabod mai un o’r rhesymau posib dros hyn yw fod grwpiau sydd o blaid annibyniaeth yn annog eu cefnogwyr i ymateb.
Aeth Rowan Williams ymlaen:
“Roedden ni’n gwybod bod yr ymgynghoriad ar-lein yn debygol o ennyn ymatebion gan bobl sydd eisoes â barn, ac o’r herwydd, fe gawson ni safbwyntiau cryf o’r naill ben a’r llall i’r sbectrwm gwleidyddol. Yn y cyd-destun hwnnw nid yw’n syndod bod annibyniaeth yn thema mor gryf yn yr ymgynghoriad. Fel Comisiwn, gallwn ddefnyddio hyn i lunio darlun o bwy sydd heb ymgysylltu â’n gwaith eto.
“Beth bynnag yw eich barn am gasgliadau’r adroddiad interim, mae amser o hyd i ddweud eich dweud a siapio sut y gallai Cymru gael ei llywodraethu yn y dyfodol.”