Mae taith plant i’r ysgol bore yma yn edrych ac yn teimlo’n wahanol, yn dilyn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd o 20mya.
Ar 17 Medi (ddoe), Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn newydd o 20mya ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl y wlad.
Disgwylir i’r newid hwn achub hyd at 100 o fywydau ac osgoi 20,000 o anafiadau yn y degawd cyntaf a helpu i greu cymunedau lle bydd plant yn teimlo’n ddiogel i chwarae heb ofid.
Bora yma, ymunodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters â disgyblion Ysgol Gynradd Albany a Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths â phlant Ysgol Gynradd Sant Elfod.
Wrth sgwrsio â’r plant a’u hathrawon, clywodd y Gweinidogion y gwahaniaeth y bydd y terfyn cyflymder is yn ei wneud, nid y tu allan i gatiau’r ysgol yn unig ond hefyd ym mywydau pob dydd y plant. Cymerodd y plant ran hefyd mewn sesiwn a drefnwyd gan y mudiadau teithio llesol Living Streets a Sustrans am fanteision cerdded, beicio a sgwtio.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth, Lee Waters:
“Mae’n syml – mae gyrru’n arafach yn achub bywydau ac yn helpu i greu cymunedau mwy diogel i’r bobl sy’n byw ynddyn nhw.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cerbyd sy’n teithio 30mya yn dal i deithio 24mya yn yr amser y byddai’n gymryd i gar sy’n teithio 20mya i ddod i stop.
“Rydyn ni’n deall bod penderfyniadau fel hwn yn gallu bod yn amhoblogaidd a bod newid wastad yn anodd, ond beth yw munud yn hyd eich taith os yw’n achub bywyd ac yn osgoi oes o drallod i deulu anffodus.”
Dywedodd Gweinidog y Gogledd, Lesley Griffiths:
"Fel y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno’r terfyn cyflymder o 20mya, mae Cymru’n rhan o fudiad sy’n tyfu trwy’r byd i wneud y ffyrdd mewn ardaloedd poblog yn fwy diogel.
“Mae’r dystiolaeth yn dangos bod gyrru’n arafach yn arwain at lai o wrthdrawiadau ac yn helpu i achub bywydau ac ryw’n gobeithio y gwnaiff y newid hwn yn y gyfraith annog mwy o bobl i gerdded neu feicio i lefydd y bydden nhw wedi gyrru iddyn nhw cynt.”
Mae Ysgol Gynradd Albany ar stryd brysur iawn yng Nghaerdydd. Mae’r pennaeth, Wil Howlett, yn croesawu’r terfyn cyflymder newydd.
Dywedodd:
“Rydyn ni’n falch iawn bod y terfyn cyflymder wedi’i ostwng. Mae ffordd llawer o’n plant i’r ysgol yn brysur iawn, gyda llawer o draffig a cheir wedi’u parcio.
Yn ogystal â gwneud y daith hon i’r ysgol yn fwy diogel, bydd gostwng y terfyn cyflymder yn annog mwy o blant a’u rhieni i gerdded neu feicio.”
Mae pennaeth Ysgol Gynradd Sant Elfod yn Abergele, Gwynne Vaughan, hefyd yn bles bod y terfyn cyflymder yn gostwng. Dywedodd:
“Mae terfynau cyflymder is ar y daith i’r ysgol yn hynod hynod bwysig i ddiogelwch ein plant, eu rheini a’u gwarcheidwaid.
“Yn ein barn ni, bydd y terfyn cyflymder newydd yn ei gwneud hi’n fwy diogel i bobl sy’n teithio i’r ysgol ac yn ei gwneud hi’n daith brafiach.
“Bydd pobl gobeithio yn cael eu hannog i gerdded, sgwtio neu feicio i’r ysgol. Bydd yn rhoi cyfle hefyd i gymuned ein hysgol gysylltu’n gymdeithasol â’i gilydd. Yn y pen draw, bydd y terfyn cyflymder o 20mya yn achub bywydau ac yn gwneud ein cymunedau’n llefydd brafiach i fyw ynddyn nhw.”