Neidio i'r prif gynnwy

Er bod iechyd pobl Cymru yn gwella, mae angen i'r holl wasanaethau cyhoeddus ymateb yn greadigol er mwyn mynd i'r afael â'r bylchau iechyd rhwng yr ardaloedd cyfoethocaf a'r tlotaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dyna neges Prif Swyddog Meddygol newydd Cymru Dr Frank Atherton yn ei adroddiad blynyddol cyntaf, Adfer cydbwysedd i ofal iechyd: Gweithio mewn partneriaeth i leihau annhegwch cymdeithasol, sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd â’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones.

Mae'r adroddiad yn edrych ar y ffaith bod cyfraddau uwch o ymddygiad niweidiol fel smygu ac iechyd gwael i'w gweld ymysg grwpiau o bobl dan anfantais economaidd, sydd hefyd yn gweld lefelau uwch o afiechydon a marwolaethau cynnar.   Mae'r adroddiad yn dadansoddi'r ffordd y mae'r graddiant cymdeithasol hwn yn effeithio ar bobl Cymru a'r hyn sydd angen i ni ei wneud i roi sylw i'r mater. 

Awgrymir y dylai gwasanaethau cyhoeddus gydweithio i dargedu pobl ddifreintiedig, er mwyn lleihau effaith anghydraddoldebau iechyd, ac y dylid gweithio'n agosach â chymunedau i gyrraedd y rhai mwyaf agored i niwed.

Lansiwyd yr adroddiad gan Dr Atherton a'r Athro Jones yn ystod ymweliad â chlwb brecwast yn y Sblot sy'n cael ei redeg gan wirfoddolwyr yn y gymuned fel cyfle i bobl ddod at ei gilydd i fwyta ac i ddysgu am y gwasanaethau lleol sydd ar gael iddynt.  

Caiff y gwasanaeth ei lunio a'i redeg gan bobl leol sy’n ennill credydau amser am wirfoddoli. Maen nhw yna’n gallu defnyddio’r credydau hyn ar gyfer gweithgareddau a chyfleoedd lleol drwy fenter gymunedol SPICE.    

Dywedodd Dr Atherton: 

"Fe benderfynais i ddod i weithio i Gymru oherwydd yr ymroddiad cryf i wella canlyniadau iechyd yn Llywodraeth Cymru, y Gwasanaeth Iechyd a'r sector cyhoeddus.  O'r hyn rydw i wedi'i weld hyd yma, mae llawer o resymau dros ymfalchïo, ac mae llawer yn mynd i'r cyfeiriad cywir.  

"Mae disgwyliad oes Cymru'n gwella.  Mae cyfraddau goroesi canser yn gwella o flwyddyn i flwyddyn ac mae llai o bobl yn marw o glefyd y galon.  Rydyn ni wedi gweld cyfraddau smygu ac yfed yn cwympo'n sydyn ymysg pobl ifanc yn eu harddegau yn ddiweddar.  

"Er hynny, mae'n hamodau cymdeithasol a ffactorau amgylcheddol yn dylanwadu'n sylweddol ar ein hiechyd.   Felly mae gwella iechyd y genedl a lleihau anghydraddoldebau iechyd yn golygu bod rhaid i ni edrych ar y dylanwadau ehangach hyn. 

"Dydw i byth am weld sefyllfa lle mae'r rhai mwyaf breintiedig yn ein cymdeithas sy'n cael y mynediad gorau at wasanaethau - mae pawb yn haeddu cyfle cyfartal i gael y cyfle gorau posib mewn bywyd." 


Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones: 

"Rhaid i ni ganolbwyntio'n hymdrechion lle gallwn helpu pobl fwyaf, ac rydyn ni'n gweld y Gwasanaeth Iechyd a gwasanaethau eraill yn ymateb fwyfwy i'r angen hwn. 

"Dydy anghydraddoldebau iechyd ddim yn rhywbeth anochel.  Yn 2010-11, roedd tystiolaeth bod y bobl fwyaf difreintiedig 20% yn llai tebygol  o gael triniaeth angioplasteg neu lawdriniaeth ddargyfeiriol yn y chwe mis yn dilyn cael eu derbyn am drawiad ar y galon.  Drwy wella'r cynlluniau iechyd yn y De, mae'r anghydraddoldeb iechyd hwn rhwng y cleifion mwyaf a lleiaf difreintiedig wedi ei ddileu. 

"Mae'r clwb brecwast yn dangos pwysigrwydd gwasanaethau sy'n cael eu llunio gyda'r bobl leol.  Gall y tîm gynnig mynediad at gymorth lleol gan gynnwys gwasanaethau iechyd a llesiant, cynhwysiant digidol ac ariannol a llawer mwy - pob un yn medru cael effaith gadarnhaol."   

"Does dim modd i weithwyr iechyd proffesiynol fynd i'r afael ag iechyd gwael wrth eu hunain; mae'n hadroddiad yn egluro sut mae'n rhaid i wasanaethau Cymru gydweithio mwy."