Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd y Gweinidog fod unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu pobl Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd y Gweinidog fod unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn un o'r materion pwysicaf sy'n wynebu pobl Cymru, yn enwedig y rheini dros 80 oed, ac felly mae mynd i'r afael â hyn yn un o'i brif flaenoriaethau. 

Mae Cymru eisoes ar flaen y gad wrth ystyried gwella llesiant pobl. Mae dwy gyfraith allweddol wedi'u pasio yn y blynyddoedd diwethaf – Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r deddfau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ystyried llesiant ehangach pobl wrth ddarparu gwasanaethau, i feddwl yn fwy hirdymor, i weithio'n well gyda'i gilydd a chymunedau, i fynd ati i atal problemau rhag codi, neu i arbed sefyllfaoedd rhag gwaethygu gan weithio mewn ffordd fwy cydgysylltiedig.

Bydd strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb yn helpu i sicrhau bod egni ac adnoddau'r holl wasanaethau cyhoeddus yn cael eu defnyddio er mwyn ymateb yn ystyrlon ac yn gyfannol dros y tymor hir i unigrwydd ac arwahanrwydd yng Nghymru.

Mae nifer o fentrau eisoes ar waith i helpu i leihau unigrwydd, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl gwell, teithio ar fysiau am ddim, nofio am ddim i bobl hŷn a chymorth sy'n pontio'r cenedlaethau i helpu pobl hŷn ddod ar-lein.

Yn ogystal â hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn:

  • Nodi meysydd gwaith ar draws y Llywodraeth y byddai modd eu hybu i fynd i'r afael â'r mater
  • Yn ystod 2018, cyhoeddi strategaeth traws-lywodraethol ar unigrwydd ac arwahanrwydd i'w hymgynghori arni, a chyhoeddi strategaeth derfynol erbyn mis Mawrth 2019
  • Comisiynu gwaith i asesu effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar iechyd a llesiant ac i weld a yw'r bobl sy'n eu profi yn gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus. 
Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Mae unigrwydd ac arwahanrwydd yn fater iechyd y cyhoedd sy'n gallu effeithio ar lawer o grwpiau gwahanol o bobl yn ystod camau amrywiol o'u bywydau. Ond yn benodol, mae'n broblem fawr i lawer o bobl hŷn yng Nghymru.

"Mae'n gallu, ac mae yn cael effaith sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl. Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau'r iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd gorau posibl i bobl Cymru. Felly mae'n rhaid i’r gwaith o atal pobl rhag teimlo unigrwydd ac arwahanrwydd fod yn flaenoriaeth genedlaethol i ni, gan y bydd yn gwella bywydau pobl ac yn helpu i leihau'r galw am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Rwy'n benderfynol o ddefnyddio egni ac adnoddau'r holl wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i ymateb yn ystyrlon ac yn gyfannol dros y tymor hir i unigrwydd ac arwahanrwydd.”