Mae'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans wedi ymateb i Ddatganiad y Gwanwyn Llywodraeth y DU heddiw gan ddweud nad oes unrhyw beth wedi newid.
Cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Ddatganiad y Gwanwyn blynyddol heddiw, gan gadarnhau ei fod wedi casglu swm o arian a fyddai ond yn ei wario pe bai Aelodau Seneddol yn cymeradwyo cytundeb Brexit.
Dywedodd hefyd wrth Dŷ'r Cyffredin y byddai'n cynnal Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant eleni - cyllideb adnoddau blwyddyn yn unig sydd gan Gymru fel gweddill y DU - ond roedd hyn hefyd ar yr amod bod cytundeb Brexit yn cael ei gymeradwyo.
Fe gafodd cytundeb Brexit Prif Weinidog y DU ei drechu neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin, ac fe fydd Aelodau Seneddol yn pleidleisio heno ar Brexit heb gytundeb ac yfory ynghylch ceisio ymestyn Erthygl 50.
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
"Cyn y datganiad heddiw, galwais ar y Canghellor i roi eglurder am ei gynlluniau gwariant i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd mewn ffordd esmwyth.
“Yn lle hynny, fe gollodd y cyfle i wneud buddsoddiadau sylweddol i hybu'r economi gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i pharlysu gan Brexit. Does dim modd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig redeg economi'r wlad ar sail a fydd Aelodau Seneddol yn cymeradwyo cytundeb Brexit ai peidio.
"Er gwaethaf honiadau ffyddiog y Canghellor am gryfder economi'r Deyrnas Unedig, mae'r rhagolygon ar gyfer y tymor canolig yn siomedig o hyd. Dydy'r rhagolygon am 1.5% o dwf yn yr economi ddim yn rhywbeth i ymfalchïo ynddo, ac mae hyd yn oed hynny'n amcangyfrif optimistig sy'n dibynnu ar gael Brexit trefnus.
"Dydy'r Canghellor ddim wedi darparu unrhyw gymorth na chefnogaeth i hybu cymunedau a busnesau Cymru ynghanol y cyni presennol, a grëwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig."
Ychwanegodd yr Gweinidog Cyllid:
"Mae'n gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio dan bwysau naw mlynedd o gyni."