Wrth i Fis Pride dynnu i ben, cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn, at record Llywodraeth Cymru o ran hyrwyddo hawliau LGBTQ+ yng Nghymru, ac amlinellodd becyn uchelgeisiol o fesurau i helpu i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog:
A hithau’n Fis Pride, dw i am achub ar y cyfle i ailddatgan ymrwymiad a phenderfyniad y Llywodraeth hon i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LGBTQ+ yng Nghymru.
Mae ein record o gefnogaeth i’r gymuned LGBTQ+ yma yng Nghymru yn un y gallwn ni ymfalchïo ynddi – o ddiwygio’r cwricwlwm i gynnwys addysg am LGBTQ+ i sefydlu gwasanaeth arloesol hunaniaeth o ran rhywedd, a mynd ati cyn un o genhedloedd eraill y DU i gynnig PReP yn rhad ac am ddim o fewn y GIG.
Yn ystod cyfnod Covid-19 fe wnaethon ni sefydlu grant ar gyfer lleoliadau LGBTQ+, a’r mis yma rhoddodd Prif Weinidog Cymru waed ochr yn ochr â gweithredwyr dros hawliau pobl hoyw a oedd, tan nawr, wedi’u gwahardd rhag rhoi eu gwaed.
Dyw cynnydd ddim yn rhywbeth anochel byth, a dyna pam mae cymaint yn rhagor i’w wneud.
Wrth gyhoeddi pecyn cymorth ar gyfer Pride Cymru, i sefydlu cefnogaeth i’r mudiad a helpu i ddatblygu digwyddiadau ar lawr gwlad ledled Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog:
Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Pride yn y gorffennol, ond bellach rydyn ni’n rhoi sail gadarnach i’r gefnogaeth hon, i helpu gyda chynllunio a chynaliadwyedd hirdymor, nid dim ond un digwyddiad, ond i gydnabod rôl Pride fel mudiad llawr gwlad.
Fe fyddwn ni’n darparu £25,000 o gyllid newydd ar gyfer Pride Cymru eleni, ac yn sefydlu’r gefnogaeth hon, yn ogystal â symiau sylweddol fwy yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, fe fyddwn ni hefyd yn sefydlu Cronfa Pride newydd i gefnogi digwyddiadau llawr gwlad ledled Cymru. Fe fyddwn ni’n cefnogi mudiadau bach i ffynnu ac yn helpu i ofalu bod pob person LGBTQ+ yn gallu cymryd rhan yn yr hyn sydd gan Pride i’w gynnig.
Yn ogystal, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog y camau nesaf i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LGBTQ+ yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog:
Ar ddechrau’r flwyddyn, fe wnaethon ni sefydlu’r Panel Arbenigol Annibynnol i helpu i sefydlu’r camau nesaf ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb i bobl LGBTQ+. Ym mis Mawrth, cyflwynodd y Panel hwn ei adroddiad, a oedd yn cynnwys 61 o argymhellion o dan chwe phrif thema: Hawliau Dynol a Chydnabyddiaeth; Diogelwch; Cartref a Chymunedau; Iechyd a Gofal Cymdeithasol; Addysg; a’r Gweithle.
Cafodd gwaith y Panel Arbenigol hwn ei ddefnyddio i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer Hyrwyddo Cydraddoldeb i Bobl LGBTQ+ yng Nghymru.
Fe fydd y cynllun uchelgeisiol trawslywodraethol hwn yn amlinellu’r camau pendant y byddwn ni’n eu cymryd i wella bywydau pobl LGBTQ+, i fynd i’r afael â phroblem gwahaniaethu yn eu herbyn, ac yn y pen draw i sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop.
Byddwn yn dechrau ymgynghori ar y cynllun hwn ddiwedd Gorffennaf, a chyn hynny roeddwn i eisiau rhannu ambell bwynt allweddol.
- Fe fyddwn ni’n sefydlu Panel Arbenigol LGBTQ+ yn swyddogol i helpu i roi ein cynllun ar waith ac i ddal y Llywodraeth yn atebol o ran cynnydd.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i sicrhau bod cymaint o agweddau â phosibl o’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd yn cael eu datganoli. Rydyn ni hefyd yn comisiynu cyngor cyfreithiol ar bob pŵer sydd ar gael i wahardd Therapi Newid Cyfeiriadedd Rhywiol yng Nghymru, faint bynnag o oedi fydd yna ar lefel Llywodraeth y DU.
- Fe fyddwn ni’n penodi cydgysylltydd Pride cenedlaethol i gefnogi ein holl waith yn y maes hwn, a chaiff y manylion eu trafod dros y misoedd nesaf.
Fel yn achos cymunedau eraill, rydyn ni’n gwybod bod mwy nag un dimensiwn, yn aml, i’r problemau y mae’r gymuned LGBTQ+ yn eu hwynebu, a dyna pam y bydd y cynllun gweithredu hwn yn canolbwyntio, mewn ffordd na wnaed o’r blaen, ar ryngblethedd y materion hyn. Bydd hefyd yn gydnaws â’n gwaith i hyrwyddo hawliau dynol, gan gynnwys y cynllun cydraddoldeb strategol, y Cynllun Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd, ac wrth gwrs ein Cynllun Gweithredu arloesol ar Gydraddoldeb Hiliol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i ddangos nad mater o sloganau a geiriau cynnes yw hyrwyddo’r agenda cydraddoldeb. Mae’n fater o weithredu.
Mae wedi bod yn uchelgais gennyn ni bob amser, ac fe fydd yn parhau, i sicrhau mai Cymru yw’r genedl fwyaf cyfeillgar i bobl LGBTQ+ yn Ewrop. Mae cyhoeddiadau heddiw yn gam tuag at gyflawni hynny.
Wrth gloi, tynnodd y Dirprwy Weinidog sylw at Derfysgoedd Stonewall, gan ailddatgan uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau Cymru fwy cyfartal. Dywedodd y Gweinidog:
Fe gynhaliwyd gorymdaith gyntaf Pride ym Mehefin 1970 flwyddyn ar ôl Terfysgoedd Stonewall. Ganwyd Pride o brotest. Er ei bod yn iawn ein bod ni’n cydnabod ac yn dathlu pa mor bell rydyn ni wedi dod, dyw cynnydd ddim yn rhywbeth anochel, ac mae Pride yn parhau i fod mor ganolog heddiw ag yr oedd hanner canrif yn ôl.
Wrth i Fis Pride dynnu i ben, mae angen inni gofio y gallwn ni, gyda’n gilydd, barhau i sicrhau newid a chynnydd, gyda chyd-uchelgais newydd i greu Cymru fwy cyfartal.