Mae’r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, Rebecca Evans, yn galw heddiw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i egluro ar fyrder beth sy’n digwydd o ran darparu cyllid hanfodol i Gymru ar gyfer y dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Wrth siarad mewn cynhadledd yng Nghaerdydd heddiw bydd Rebecca Evans yn dweud:

“Ers y refferendwm, rydyn ni wedi bod yn gyson ac yn glir yn ein galwadau i Lywodraeth y DU ynglŷn â darparu cyllid yn lle cronfeydd yr UE. Ddylen ni ddim bod geiniog ar ein colled o’i gymharu â’r hyn y byddem wedi disgwyl ei gael o fewn yr UE, a dylai Cymru gael dal ei gafael ar y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r trefniadau newydd. Yn syml, rydyn ni am weld yr addewidion a gafodd eu gwneud i bobl Cymru yn ystod y refferendwm yn cael eu hanrhydeddu’n llawn. Rydyn ni am i ddatganoli gael ei barchu, gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio drosto ddwywaith.

“Ond ar ôl tair blynedd o addewidion gwag, a Llywodraeth y DU yn gwrthod trafod yn ystyrlon gyda ni dro ar ôl tro, rydyn ni’n dal yn ansicr pa fath o gyllid fydd ar gael i Gymru yn y dyfodol.

“Ychydig ddyddiau yn ôl, wrth ymweld â Chaerdydd, dywedodd Boris Johnson ei fod yn bwriadu darparu’r cyllid yn llawn, ond y byddai angen dylanwad Ceidwadol cryf ar y ffordd mae’n cael ei wario, er mwyn sicrhau gwerth i’r trethdalwr.

“Mae hynny’n mynd yn groes i ddatganoli yng Nghymru, wrth gwrs, ond ar ben hynny does dim llawer o dystiolaeth bod cyllid dan arweiniad y Ceidwadwyr yn rhoi gwerth am arian i’r trethdalwr. Mae’n destun pryder bod adroddiad diweddar gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi nodi nad oedd amcanion clir na dealltwriaeth ynghylch effaith y £12 biliwn o fuddsoddiad  a wnaed drwy’r Gronfa Twf Lleol yn Lloegr dan arweiniad y Ceidwadwyr.” 

Ychwanegodd y Gweinidog: 

“Mewn gwrthgyferbyniad llwyr i ddiffyg trefn Llywodraeth y DU wrth ymdrin â’i chynigion ynglŷn â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, rydyn ni wedi mynd ati mewn modd cyflym, clir ac agored i ddatblygu dull gweithredu ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn y dyfodol. Mae pobl, busnesau a chymunedau Cymru yn rhy bwysig i ni allu aros nes bydd Llywodraeth y DU yn datrys ei phroblemau mewnol.

“Mae gennym sefyllfa wahanol yma yng Nghymru o ran deddfwriaeth a pholisïau, ac mae hynny’n ein harwain ar drywydd gwahanol i’r un cyfyng sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU. Mae ein trafodaethau gyda’n partneriaid yng Nghymru wedi nodi meysydd allweddol i ganolbwyntio arnynt mewn model ar gyfer y dyfodol - sef hybu busnesau mwy cynhyrchiol a chystadleuol, cymunedau iachach a chadarnach, a newid i economi digarbon.”

I grynhoi, bydd y Gweinidog Cyllid yn dweud:

“Mae’r ymgynghoriad y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gynnal ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn ychwanegu ansicrwydd sy’n bygwth tanseilio’r gwaith sydd ar y gweill yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y bydd yr haf yn rhoi’r cyfle i’r Prif Weinidog a’r Cabinet newydd ailfeddwl am eu safbwynt, ac y byddan nhw’n cadarnhau eu hymrwymiad i ddatganoli a chyllid i Gymru drwy weithredoedd yn hytrach na geiriau.”