Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James yn ystod ei hymweliad â Lefelau Gwent heddiw ei bod hi’n benderfynol o warchod y safle hwn o bwys rhyngwladol,

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ymwelodd y Gweinidog â’r Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol sy’n ffurfio Lefelau Gwent, y diwrnod ar ôl i’r Senedd gyhoeddi ei bod yn argyfwng natur.

Y Lefelau yw un o’r darnau mwyaf o gorsydd a ffosydd pori (reens fel y’u gelwir yma) sydd wedi goroesi ym Mhrydain a’r mwyaf o’u bath yng Nghymru ond mae’r cynefin hwn wedi bod o dan fygythiad oherwydd datblygu a llygredd.

Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd Julie James:

“Mae adfer natur a lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn flaenoriaethau hollbwysig i’r Llywodraeth hon.  Rydym eisoes wedi dangos hynny yn ein penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Ffordd Liniaru’r M4 a fyddai wedi golygu datblygu rhan o Lefelau Gwent. Rydym dal wrthi’n chwilio am ffyrdd i warchod y tirlun pwysig hwn.

“Mae Lefelau Gwent yn aruthrol o bwysig – nid i’r rhan hon o’r De yn unig – ond i’r byd cyfan.  Byddwn yn gweithio i’w gwarchod.

“Mae’r gwaith yn cynnwys edrych sut y gellid defnyddio’r tir a gafwyd fel rhan o brosiect yr M4 i helpu i wella Lefelau Gwent.”

Dywedodd y Gweinidog bod y Gweithgor y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei sefydlu o dan gadeiryddiaeth AS Dwyrain Casnewydd John Griffiths i ystyried sut i reoli a gwarchod Lefelau Gwent yn fodel pwerus ar sut y gall cymunedau a rhanddeiliaid weithredu gyda’i gilydd er lles ardaloedd fel Lefelau Gwent.

Mae’r Gweithgor yn cynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, llywodraeth leol, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a rhanddeiliaid eraill ac mae’n datblygu cynllun gweithredu strategol fydd yn edrych ar:  

  • Sicrhau bod y gwaith y mae’r Bartneriaeth Lefelau Byw yn ei wneud i adfer cynefinoedd ac i ennyn diddordeb perchenogion tir a’r cyhoedd trwy brosiect o dan arweiniad yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent gydag arian gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn parhau. 
  • Arweiniad cynllunio newydd a chryfach i sicrhau bod y datblygiadau iawn yn cael eu lleoli yn y mannau iawn ac yn osgoi rhagor o effeithiau annerbyniol ar fioamrywiaeth a thirweddau Lefelau Gwent.             
  • Adnewyddu ac ehangu cwmpas Cytundebau Rheoli Tir sy’n erfyn allweddol i berchenogion a rheolwyr tir allu cynnal gwaith rheoli pwysig ar gynefinoedd i gynnal a gwella bioamrywiaeth mewn SoDdGAau.

Dywedodd y Gweinidog hefyd:

“Fel rhan o’n hymateb cryfach i argyfyngau’r hinsawdd a natur, rwy’n awyddus i sicrhau bod ardaloedd fel Lefelau Gwent yn cael eu gwarchod a’u rheoli’n well at y dyfodol.  Bydd hynny’n gwarchod ein treftadaeth naturiol gyfoethog ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.”