Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi tynnu sylw heddiw at y ffaith mai dim ond wyth wythnos sydd gan landlordiaid preifat yng Nghymru I gofrestru eu hunain a’u heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

O ganlyniad I Ddeddf Tai (Cymru) 2014, erbyn 23 Tachwedd mae angen I bob landlord preifat gofrestru ac mae angen I bob landlord ac asiant sy’n rheoli tai fod yn drwyddedig gyda Rhentu Doeth. Bydd angen I landlordiaid ac asiantau sy’n ymwneud â gosod tai a’u cynnal a’u cadw ymgymryd â hyfforddiant er mwyn gwneud cais am eu trwydded.

Mae Rhentu Doeth Cymru (dolen allanol) yn gynllun arloesol a fydd yn helpu I atal landlordiaid ac asiantau twyllodrus, troseddol hyd yn oed, wrth reoli a gosod eiddo. Bydd hefyd yn helpu I ddiogelu tenantiaid yn y sector rhentu preifat ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da drwy eu helpu I fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau a’u hymrwymiadau cyfreithiol gan godi enw da’r sector at ei gilydd.

Dywedodd:

“Dim ond wyth wythnos sydd cyn y dyddiad olaf I gofrestru a chael trwydded gan Rentu Doeth Cymru. Rydyn ni’n dechrau gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau felly byddwn yn annog unrhyw un sydd heb wneud hynny eto I gofrestru cyn gynted â phosibl oherwydd, er bod y broses o gofrestru yn syml ac yn gyflym ar-lein, mae’n gallu cymryd hyd at wyth wythnos I brosesu ceisiadau am drwydded ar ôl i’r wybodaeth gael ei chyflwyno.

“Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol I bob landlord gofrestru ac mae’n ofynnol I asiantau a landlordiaid sy’n rheoli eu heiddo eu hunain gael trwydded. O 23 Tachwedd 2016 ymlaen gall unrhyw un nad yw’n cydymffurfio â’r gyfraith gael cosb benodedig, neu os bydd achos llys, gall gael dirwy.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Bob Derbyshire:

“Bydd landlordiaid ac asiantau wedi cael blwyddyn gyfan I sicrhau eu bod yn cofrestru, yn cael yr hyfforddiant priodol ac yn cael eu trwyddedu o dan y cynllun newydd. Mae’r dyddiad olaf sef 23 Tachwedd yn prysur agosáu ac mae’n hanfodol bod trefniadau’n cael eu gwneud nawr er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Ewch ati I gofrestru nawr felly.”