Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Rhoddwyd yr araith mewn cynhadledd ynghylch Ymgynghoriad CCAUC ar strategaeth addysg uwch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Good morning, bore da bawb

Diolch yn fawr i David am y gwahoddiad caredig.

Mae’n dda bod gyda chi bore ‘ma – yma yn yr Hilton.

Gwn mai’r bwriad gwreiddiol oedd cyfarfod yng Nghanolfan y Mileniwm – dafliad carreg o’m swyddfa ar bumed llawr Ty Hywel.

Rwy’n ymwybodol iawn fod y syniad o ‘gyrff hyd braich’ yng nghyd-destun Hazelkorn, yn fater dadleuol, ond efallai bod y newid lleoliad hwn yn cymryd pethau ychydig yn rhy llythrennol …

Yn fy mhum mis cyntaf fel yr Ysgrifennydd dros Addysg, rwyf wedi mwynhau’r cyfle i deithio o amgylch y wlad, yn cyfarfod â myfyrwyr, ymchwilwyr, darlithwyr, staff gwasanaethau proffesiynol ac ie, Is-gangellorion a Chadeiryddion hefyd.

Ddydd Iau diwethaf, ymwelais â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru. Cefais nid yn unig gyfle i drafod materion â myfyrwyr rhyngwladol ym Met Caerdydd, ond gwnes i hefyd fwynhau’r her o lanio awyren yn nynwaredwr hedfan Prifysgol De Cymru!

Roedd yn dda cael sgwrs gyda Julie a chroesawu Cara i’w swydd newydd, ac i Gymru. Er bod mwy i’w wneud bob amser, dylem fod yn falch ein bod ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU ar gyfer nifer ein His-gangellorion benywaidd.

Ddydd Gwener diwethaf, mynychais seremoni raddio’r Brifysgol Agored yng Nghymru. Does fawr ddim yn cyfateb i’r ymdeimlad o gyflawniad, dathliad a gorfoledd a brofir yn seremonïau’r Brifysgol Agored, felly roeddwn yn falch o allu ymuno â’r graddedigion, eu teuluoedd a staff y Brifysgol Agored a’u cefnogodd yn ystod eu hastudiaethau.

Yn yr un modd ag y bydd y graddedigion hynny wedi bod yn myfyrio ar eu teithiau, rwyf wedi achub ar y cyfle i fyfyrio ar y pum mis diwethaf wrth baratoi’r araith hon.

Wrth feddwl am gyflymder y datblygiadau, a pharhau i ganolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd o’n blaenau, daw geiriau dau oracl ychydig yn wahanol i’r meddwl.

Yn gyntaf, y Rhyddfrydwr radical o Gymru, yr AS Stuart Rendel. Mewn sawl ffordd, ef oedd tad seneddol y system addysg yng Nghymru, a bu’n ddylanwad mawr yn ystod blynyddoedd cynnar Prifysgol Aberystwyth.

Dof yn ôl at ei weledigaeth mewn eiliad.

Yn ail, yr athronydd Americanaidd amlwg, a phencampwr pwysau trwm y byd ddwywaith ...Mike Tyson.

Gadewch i mi egluro.

Pan ofynnwyd i Tyson, pan oedd ar y brig, ynglyn â strategaethau manwl ei wrthwynebwyr i’w drechu – dywedodd yn syml: “Well, everyone’s got a plan until they get punched in the nose!”

Fel y nodais yn fy araith ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd pleidlais refferendwm yr UE, i lawer yn y sector, fel ym maes gwleidyddiaeth, yn teimlo fel dyrnod pwerus i’r trwyn.

Ni wnaf ailadrodd yr un dadleuon yma ynglyn â’r datgysylltiad a’r pellter rhwng y campws a chymunedau croesawu – er i mi groesawu’r ymateb gan lawer yn y sector i’r her honno dros yr wythnosau diwethaf.

Ond mae sioc y bleidlais honno a’i goblygiadau posibl yn golygu bod angen:

  • cydweithio’n gryfach ar draws y sector a gyda llywodraeth;
  • hyblygrwydd o ran ymgysylltu’n rhyngwladol;
  • a ffordd newydd o feddwl ynglyn â chydberthnasau ymchwil a chyllido gyda’r UE a phartneriaid byd-eang.

Ond er i hyn ddigwydd ddim ond mis ar ôl i mi ddechrau yn y swydd – nid yw pleidlais Brexit yn gwanhau fy ymrwymiad i’r blaenoriaethau a nodir yn y cytundeb â’r Prif Weinidog ac yn ein Rhaglen Lywodraethu.

  • Gweithredu Adolygiad Diamond yn gynnar, ar ôl ystyried y goblygiadau ymarferol;
  • Hyrwyddo a gwella llwybrau academaidd a galwedigaethol i mewn a thrwy addysg bellach ac addysg uwch;
  • Disgwyl i’n prifysgolion gyflawni eu rolau a’u cyfrifoldebau cenedlaethol, rhyngwladol a dinesig;
  • Ymrwymiad i ddatblygu mewn ffordd hyblyg, yn llawn amser ac yn rhan amser, gan sicrhau bod dysgwyr o bob oedran, cyflogwyr a chymunedau yn cael budd o hynny;
  • A blaenoriaethu cefnogaeth i gysylltiadau gwell rhwng addysg a diwydiant, gan ganolbwyntio’n benodol ar arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Nawr, yn ôl at fy ail ddaroganwr, Stuart Rendel.

Wrth gyflwyno Deddf Addysg Cymru 1889, roedd ganddo farn ryngwladol ar botensial Cymru.

Dywedodd:

“This House could make no better investment than to assist the Welsh youth in acquiring higher education”

Ac eglurodd pam:

“It is a common complaint that in commercial trading and manufacturing pursuits Englishmen are generally distanced by Germans, who are harder working, more thrifty, and better educated men, with a much greater command of language. I submit that the Welsh rival the Germans in all these respects.”

Er ei fod yn siarad, trwy ddiffiniad, â chynulleidfa Seisnig yn bennaf, pwysleisiodd fod gan Gymru y potensial a’r rhwymedigaeth i gystadlu’n rhyngwladol ac edrych y tu hwnt i’n cymydog agosaf.

Caiff ein datblygiad polisi cyfredol, ac enghreifftiau o arfer gorau i’w hefelychu, ei lunio gan safbwynt rhyngwladol tebyg.

Ar draws y portffolio addysg, rwy’n gofyn i’m swyddogion a’r rhai yn y sector i chwilio am syniadau a thystiolaeth o bob cwr o’r byd.

Seilir ein gwrthwynebiad i ddidoli a dethol mewn ysgolion ar enghreifftiau y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd.

Mae pwysigrwydd lleihau maint dosbarthiadau fel rhan o fentrau i leihau’r bwlch cyrhaeddiad a chodi safonau, yn seiliedig ar brofiad yn Ne America.

Rhaid i’n hymateb i’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer addysg uwch hefyd fanteisio ar safbwyntiau ehangach na’r hyn sy’n digwydd dros y ffin.

Yn wir, un o’r agweddau mwyaf diddorol ar adroddiad Hazelkorn yw profiadau manwl systemau addysg uwch ledled y byd:

  • y fframwaith gwahaniaethu sy’n procio’r meddwl a geir yn Ontario;
  • y pwyslais ar hyblygrwydd o fewn dull rhanbarthol a chenedlaethol yn Iwerddon;
  • neu ddull strategol Seland Newydd o ymdrin ag addysg ryngwladol.

Rwyf am i’n system a’n prifysgolion fod yn esiampl i weddill y byd.

Ond er mwyn cyflawni hynny, rhaid i ni fod yn ddigon hyderus ac arloesol er mwyn:

  • manteisio ar yr enghreifftiau gorau o dystiolaeth a meddwl seiliedig ar ddata;
  • galluogi a hyrwyddo staff ymhellach a sicrhau symudedd myfyrwyr y tu allan i Gymru;
  • a dysgu gwersi cydlyniaeth a chydgysylltu gwell ar draws y sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol.

Felly, beth yn union y mae hynny’n ei olygu ar gyfer datblygiad y strategaeth?

Rwy’n glir bod yn rhaid iddi fod yn uchelgeisiol, ac yn ysbryd ein cenhadaeth genedlaethol i greu cyfleoedd a chodi safonau i bawb.

Rhaid iddi gydnabod pwysigrwydd cydweithio, galluogi arloesedd a chael system sy’n hygyrch ac yn hyblyg i bawb, waeth beth fo’u cefndir na’u ffordd i mewn i addysg uwch.

Dylai ymgorffori ein hiaith neilltuol, ein diwylliannau a’n hymrwymiad i ddemocrateiddio gwybodaeth. Felly, rwy’n falch eich bod wedi rhoi amlygrwydd i’r egwyddorion sy’n sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dylai hefyd annog a chefnogi dulliau hyblyg o astudio a sicrhau bod ein sefydliadau yn gallu cystadlu â’r gorau yn y byd.

Fodd bynnag, yn y pen draw, mae angen iddi gydnabod y cyfrifoldeb sylfaenol o gyfrannu at greu cymdeithas ac economi well – drwy ymchwil a mynediad – ar gyfer cenedlaethau heddiw ac yfory.

Mae Cymru yn lle gwych i astudio a gweithio.

Mae ein perfformiad rhagorol yn yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol diweddaraf yn dyst i hynny, fel y mae ein traddodiad hir a balch o groesawu myfyrwyr, academyddion a staff o bob rhan o’r byd. Ac rydym yn fwy ymrwymedig i hyn nag erioed o’r blaen.

Ar yr adeg hon o ansicrwydd, fodd bynnag, mae angen gweithredoedd yn ogystal â geiriau caredig.

Felly, roeddwn yn falch o gadarnhau yr wythnos diwethaf y bydd gwladolion o’r UE sy’n astudio yng Nghymru yn 2017/18 yn parhau i fod yn gymwys i gael cymorth ariannol drwy gydol eu hastudiaethau.

Mae ymrwymiad ac uchelgais y rhai sy’n aelodau o weithgor Brexit eisoes wedi creu argraff arnaf ac maent yn dangos penderfyniad mawr i fynd i’r afael â’r heriau a manteisio ar gyfleoedd.

Rwy’n awyddus i weld y grwp yn esblygu ac yn ystyried cyfleoedd cydweithredol ar gyfer y sector yn rhyngwladol.

Rwyf am achub ar y cyfle hwn i atgoffa pawb yn gyflym am ein camau nesaf mewn perthynas ag adroddiad Diamond.

Mae fy nghydweithwyr yn y Cabinet a minnau wedi cymeradwyo’r egwyddorion a geir yn yr adroddiad. Maent yn amlinellu system decach a mwy cynaliadwy o gefnogi myfyrwyr a sicrhau cyllid addysg uwch.

Byddai’r cynigion yn golygu mai Cymru yw’r unig wlad yn y DU i weithredu system sy’n darparu cydraddoldeb o ran cymorth i israddedigion llawn amser, rhan amser a myfyrwyr ôl-raddedig.

Wrth gwrs, rwy’n parhau i ystyried goblygiadau ymarferol gweithredu’r argymhellion er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a chynaliadwyedd yn yr hirdymor.

Mae swyddogion wrthi’n trafod â’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar yr amserlenni ar gyfer gweithredu ein diwygiadau, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi dechrau trafodaethau â Thrysorlys EM.

Rwy’n gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i gyflwyno ymateb Llywodraeth Cymru o fewn y ddau fis nesaf, ac y gallwn roi hyn ar waith mewn pryd ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2018.

Gallaf gadarnhau y bydd yr egwyddorion allweddol canlynol yn sail i’r ymateb:

  • cynnal yr egwyddor o gyffredinoliaeth o fewn system flaengar
  • am y tro cyntaf unrhyw le yn y DU, sicrhau ymagwedd deg a chyson ar draws lefelau a dulliau astudio
  • sicrhau buddsoddiad a rennir rhwng llywodraeth a’r rhai sy’n cael budd uniongyrchol o hyn
  • gwella hygyrchedd, lleihau rhwystrau i astudio, megis costau byw
  • a bod cymorth i fyfyrwyr Cymru ar gael unrhyw le yn y DU.

Mae’n werth nodi ymateb arsylwyr mewn rhannau eraill o’r DU, megis y Sefydliad Polisi Addysg Uwch, sy’n credu y gallem ddarparu’r templed blaengar i systemau eraill yn y DU a mannau eraill yn y pen draw. Mae’n iawn bod ein system ni a’n prifysgolion yn arwain y ffordd.

Fel y dywedais fis diwethaf, prifysgolion yw stiwardiaid y gymuned, y ddinas a’r wlad.

Maent yn hanfodol wrth lunio’r Gymru hyderus, ryngwladol ac arloesol sy’n gorfod datblygu o’r cyfnod heriol hwn.

Mae’r ymgysylltiad dinesig hwnnw yn mynd ar draws cymdeithas, yr economi a’r gymuned.

Mae prifysgolion heb ymgysylltiad masnachol â’u heconomi ehangach, yn gwanhau’r economi honno. A bydd economi wannach yn arwain at brifysgol wannach yn y pen draw.

Gallwn eisoes weld rhai enghreifftiau rhagorol o waith arloesol lle y mabwysiadwyd dull cydweithredol a lle mae ein colegau a’n prifysgolion wedi dangos ymrwymiad cryf i’w cenhadaeth ddinesig.

Maent wedi arbenigo mewn masnacheiddio eu gwybodaeth, er budd economi Cymru, cymdeithas Cymru ac, yn y pen draw, y byd.

Cymerwch, er enghraifft, Ganolfan Delweddu Prifysgol Caerdydd er Ymchwil yr Ymennydd. Fe’i sefydlwyd yn 2006, ac mae’n ceisio deall yr amrywiadau yn yr ymennydd ac mewn ymddygiad o ran iechyd a chlefydau, drwy ddatblygu dulliau delweddu datblygedig sy’n datgelu nodweddion penodol strwythur a swyddogaeth yr ymennydd. Mae’n dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw y byd ym maes mapio’r ymennydd gyda’r datblygiadau diweddar o ran ysgogi’r ymennydd ac mae ar fin dod yn un o gyfleusterau gorau Ewrop ar gyfer delweddu’r ymennydd.

Mae’r Ganolfan Arloesi a Gwybodaeth (IKC) SPECIFIC, ym Mhrifysgol Abertawe, yn enghraifft ragorol o gydweithio helaeth.

Mae’n un o chwe IKC yn y DU a’r unig un yng Nghymru ac mae’n gyfuniad o arbenigedd academaidd a diwydiannol. Yn ogystal â Phrifysgol Abertawe, mae’n bartneriaeth o grwpiau Prifysgol gan gynnwys Imperial College, Bangor, Caerdydd, Glyndwr, Caerfaddon a Sheffield a chwmnïau rhyngwladol fel Tata Steel, BASF, ac NSG Pilkington.

…ac ar fy ymweliad yn ddiweddar â Phrifysgol Aberystwyth, clywais am ei Phrifysgol Haf ragorol, ei rhaglen ehangu mynediad flaenllaw ar gyfer pobl ifanc o bob rhan o Gymru. Mae wedi’i hanelu’n bennaf at bobl ifanc sy’n byw neu’n mynd i ysgol neu goleg mewn ardal addysg uwch annhraddodiadol, neu sydd o gefndir gofal neu wedi gadael gofal a bellach mae’r rhaglen yn ei hunfed flwyddyn ar bymtheg. Gwelais â’m llygaid fy hun y gwahaniaeth gwirioneddol y gall cydweithio rhwng prifysgolion ac ysgolion ei wneud.

Dim ond ychydig enghreifftiau yw’r rhain, ond mae llawer mwy.

Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, amlygodd llawer o grwpiau ymchwil Sefydliadau Addysg Uwch Cymru eu hunain drwy lunio astudiaethau achos ‘Effaith’ blaenllaw y DU. Y tu ôl i lwyddiant yr astudiaethau achos ‘Effaith’, ceir enghreifftiau go iawn sy’n dangos ble mae gweithgareddau ymchwil ac arloesi wedi bod o fudd i ddiwydiant, busnesau bach a chanolig, yr economi, iechyd a lles. Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn y dyfodol.

Dydw i ddim am nodi manylion heddiw am achrediad Addysg Gychwynnol Athrawon ac ymchwil addysg gan fy mod eisoes, yn y siambr ac mewn mannau eraill, wedi nodi cynigion a heriau.

Ond rwy’n disgwyl gweld cynnydd sylweddol ar unwaith o ran cytundebau cydweithio a phartneriaeth rhwng ysgolion a phrifysgolion a rhwng prifysgolion. Ceir traddodiad addysg cryf yng Nghymru o welliant cydfuddiannol, ond mae angen gweld mwy o hynny nawr yn ein system gyfoes.

Rwy’n falch bod ein prifysgolion yn ymgysylltu’n llawn â’r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol a’u gwaith i nodi anghenion sgiliau uwch, sy’n gyson â sectorau â blaenoriaeth. Mae hyn yn rhan o agenda gynyddol yn cynnwys Bargeinion Dinesig a Chynigion Twf lle rwyf yn awyddus i weld mwy o gyfraniad gan y sector addysg uwch.

Wrth gwrs, rhaid i’r cydweithio ddigwydd o fewn Llywodraethau ac ar eu traws hefyd.

Cyn gorffen, hoffwn ymdrin yn gyflym â’r diwygiadau yn Lloegr, sydd â goblygiadau wrth gwrs i addysg uwch ac ymchwil ledled y DU.

Er ein bod yn ymdrin â pholisi a diben addysg uwch o safbwyntiau gwahanol, rwyf wedi ymwneud yn adeiladol â Jo Johnson ar gynigion ei lywodraeth.

Lle y bo’n briodol, rwyf wedi cytuno i geisio darpariaeth ar gyfer Cymru ym Mil Llywodraeth y DU, er mwyn sicrhau y diogelir buddiannau myfyrwyr a’r sector addysg uwch yng Nghymru.

Er enghraifft:

  • darpariaeth fel y gellir cynnig cyllid myfyrwyr amgen yng Nghymru gyda’r nod o sicrhau bod pob myfyriwr yn cael mynediad cyfartal i gymorth;
  • darpariaeth er mwyn sicrhau bod dull y DU gyfan o fynd i’r afael â graddau nas cydnabyddir yn gallu parhau o dan y trefniadau newydd sy’n cael eu cyflwyno yn Lloegr; a
  • darpariaeth er mwyn galluogi cydweithio rhwng y cyrff rheoliadol a’r cyrff cyllid newydd arfaethedig yn Lloegr a CCAUC.

O ran y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu, rwyf wedi gwrando ar sylwadau gan y sector ac rwy’n gwerthfawrogi, er nad yw’n berffaith, ei fod yn debygol o ddarparu elfen o safon ar gyfer y cyhoedd na ddylai effeithio’n andwyol ar enw da ein sector yng Nghymru.

Ond, pe bai angen tystiolaeth, mae’r syniadau diweddar ar gysylltu TEF a recriwtio yn dangos bod llawer o gwestiynau heb eu hateb a rhwystrau posibl.

Yn fwy uniongyrchol, mae swyddogion yn parhau i weithio ar argymhellion adolygiad Hazelkorn, cyn ymgynghori ymhellach.

Bydd cyflawni’r blaenoriaethau a’r dulliau allweddol a nodais heddiw yn llywio ein hymateb.

Mae hyn yn cynnwys ystyried yr achos dros ddiwygiadau ar draws y system a argymhellir gan yr adroddiad a byddwn yn ymgynghori ymhellach ar hyn maes o law.

Ond nid mater o aros am orchymyn yw hyn.

Mae’n hanfodol bod prifysgolion, ysgolion a cholegau yn cydweithio – ac yn fwy hyblyg ac arloesol yn y dulliau hyn. Does dim un ateb na ffurf ar gyfer cydweithrediad o’r fath.

Mae’n hanfodol bod y dulliau hyn:

  • fudd i ddysgwyr o bob oed
  • yn gwella cysylltiadau â diwydiant
  • yn sicrhau profiad rhagorol a chyflawn i bob myfyriwr
  • yn hyrwyddo dilyniant ar hyd llwybrau academaidd a galwedigaethol
  • ac yn galluogi ac yn gwobrwyo ymchwil, arloesedd ac entrepreneuriaeth.

Gobeithio, yn yr ychydig amser a oedd ar gael heddiw, fy mod wedi cyfleu fy hyder yn y sector i gyflawni’r heriau sydd o’n blaenau.

Mae gennych yr adnoddau, a’r cyfrifoldeb, i addysgu a grymuso ein cymdeithas ehangach a’i thanio â brwdfrydedd.

Mae’r Llywodraeth yma i weithio gyda chi – fel y mae’n rhaid i chi weithio gyda ni – mewn dull arloesol a chydweithredol sy’n llywio symudedd cymdeithasol, ffyniant cenedlaethol a democratiaeth ymrwymedig.

Diolch yn fawr.