Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi dyfarnu'r contract sy'n diogelu teithiau awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn am y pedair blynedd nesaf.
Mae’r contract gwasanaethau awyr newydd o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus wedi cael ei roi i Eastern Airways, sydd, ers mis Mawrth 2017, wedi creu sefydlogrwydd ac wedi adfer hyder cwsmeriaid. Maent wedi cynyddu nifer y teithiau ar y llwybr yn sylweddol, tua 40%, gan sicrhau bod y gwasanaeth yn weladwy ymhlith teithwyr newydd a'r rhai sydd eisoes yn defnyddio'r gwasanaeth.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae angen cysylltiadau gwell ar Gymru. Mae Eastern Airways yn rhannu ein dyheadau i dyfu'r llwybr yn sylweddol dros y pedair blynedd nesaf, ac o ganlyniad cynyddu'r manteision economaidd i Gymru. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn cynnwys Eastern Airways yn gweithredu ei Jetstream 41 ar ei gapasiti llawn o 29 o seddi. Mae hyn yn 50% mwy o seddi nag y mae'n gallu eu cynnig ar hyn o bryd.
Byddai'r cynnydd hwn yn amodol ar Lywodraeth y DU yn cytuno i Faes Awyr Ynys Môn gael ei ailddosbarthu. Byddai hyn yn galluogi defnyddio capasiti llawn yr awyrennau mwy, gan helpu i ddod â chyfleoedd cyffrous ar gyfer cynnydd i’r ardal.
Mae'r angen i gynyddu capasiti ar y llwybr wedi cael ei ddangos yn glir dros y ddwy flynedd diwethaf. Gydag effeithlonrwydd gwell a chynhyrchiant uwch o ganlyniad i refeniw ychwanegol gan deithwyr, byddai'r capasiti uwch hwn yn arwain at y cymhorthdal yn cael ei leihau dros bedair blynedd y contract, o gymharu â'r sefyllfa pe baen ni'n parhau i weithredu gydag 19 sedd.
Bydd y contract newydd yn parhau i wneud cyfraniad cadarnhaol at economi Cymru a nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy leihau'r bwlch rhwng cymunedau lleol a'r brifddinas, gwella cysylltiadau rhanbarthol, gwella cyfleoedd sosio-economaidd a chyfrannu at y gwaith o sicrhau 'Cymru o gymunedau cydlynus'
Mae’r llwybr Rhwymedigaeth Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd yn darparu cyswllt ymarferol a symbolaidd pwysig rhwng gogledd a de Cymru. Mae'n hwyluso mynediad at farchnadoedd mewnol ar gyfer busnesau Cymru. Bydd y dull teithio mewnol hwn, sy’n gyflym ac yn effeithiol, yn hanfodol ar ôl Brexit.
Yn ogystal â'r ffaith fy mod eisoes yn cefnogi'r gwasanaeth rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, rwy'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gyflwyno rhwydwaith o wasanaethau awyr o dan y Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus ledled y DU i gefnogi masnach ddomestig Cymru."
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol Eastern Airways (Masnachol a Gweithrediadau), Roger Hage:
"Ers camu i'r adwy i ddarparu’r cyswllt hwn rhwng gogledd a de Cymru, sydd mor bwysig o safbwynt yr economi, rydyn ni wedi bod yn cynyddu nifer y teithwyr yn rhagweithiol fel rhan o wasanaeth y brand Flybe.
Rydyn ni wrth ein boddau bod y contract hwn i helpu i gynyddu ymhellach gapasiti y gwasanaeth hwn wedi cael ei ddyfarnu i ni. Mae hyn yn cefnogi uchelgais y Gweinidog Trafnidiaeth, a hefyd uchelgais Maes Awyr Caerdydd a Chyngor Sir Ynys Môn i alluogi mwy o bobl i fanteisio arno a gwella’r cyswllt â gwasanaethau eraill sy’n cael eu cynnig gan ein partner Flybe, a hefyd Qatar, KLM, Ryanair a TUI yng Nghaerdydd."