Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 50% o drenau newydd sbon bellach yn rhedeg ar linellau Cymru a'r Gororau, gyda rhagor ar y gweill eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r trenau newydd, y mae llawer ohonynt wedi'u gwneud yng Nghymru, yn rhan o fuddsoddiad gwerth £800m gan Lywodraeth Cymru i drawsnewid gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Gan gynnig mwy o gapasiti, seddi gwell, systemau aerdymheru modern, socedi pŵer, Wi-Fi a sgriniau sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am deithio i deithwyr, mae cwsmeriaid eisoes yn elwa ar y gwelliannau hyn.

O ganlyniad, mae dwy ran o dair o siwrneiau teithwyr yng Nghymru bellach ar drenau newydd a gwell.

Wrth siarad ar ymweliad â depo CAF lle mae rhai o'r trenau newydd sbon yn cael eu gwneud, dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru:

Mae hon yn garreg filltir bwysig ar ein cenhadaeth i drawsnewid ein rheilffyrdd.

Mae'r trenau modern newydd sbon hyn yn trawsnewid profiadau teithwyr ar linellau Cymru a'r Gororau gyda gwasanaethau cyflymach ac amlach diolch i'n buddsoddiad digynsail o £800 miliwn.

Mae'r dyfodol ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru yn edrych yn ddisglair ac rwy'n edrych ymlaen at roi rhagor o newyddion da ichi wrth inni barhau i redeg mwy a mwy o drenau newydd ac annog mwy o bobl yn ôl ar y trên.