Neidio i'r prif gynnwy

Mae allyriadau nitrogen deuocsid wedi gostwng ym mhob lleoliad ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd lle y cafodd terfynau cyflymder o 50mya eu cyflwyno, yn ôl adroddiad newydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ansawdd aer yn parhau i fod yn fater cymhleth, ac mae angen rhagor o dystiolaeth i ddangos bod y terfynau cyflymder wedi cael effaith ar lefelau NO2. Fodd bynnag, mae canfyddiadau cychwynnol yn argoeli'n dda ar ôl y flwyddyn lawn gyntaf ers i'r terfynau cyflymder gael eu cyflwyno.

Cafodd terfynau cyflymder eu cyflwyno mewn pum lleoliad ar y rhwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd er mwyn lleihau lefelau nitrogen deuocsid a oedd yn uwch na'r terfyn cyfreithiol, sy'n cael ei amlinellu yng Nghyfarwyddeb Ansawdd Aer yr Amgylchedd yr UE a Rheoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010, ac i sicrhau cydymffurfedd cyn gynted ag y bo modd.

Cyflwynwyd y terfynau cyflymder ym mhob un o'r lleoliadau ar ôl i ymchwil ddangos y potensial i wneud gwelliannau i ansawdd aer ar unwaith, mewn ffordd sy'n lleihau cysylltiad â nitrogen deuocsid cyn gynted ag y bo modd, ac sy’n golygu bod sicrhau cydymffurfedd nid yn unig yn bosibl ond yn debygol.

Yn dilyn rhagor o ymchwil a chyhoeddi cynllun atodol Llywodraeth Cymru i gynllun y DU ar gyfer mynd i'r afael â nitrogen deuocsid ar ochr y ffordd ym mis Tachwedd 2018, penderfynwyd y dylid cadw'r terfynau cyflymder.

Mae adroddiad data dros dro ar y 12 mis cyntaf ers cyflwyno'r terfyn cyflymder o 50mya, sy'n cael ei gyhoeddi ar ddydd Llun 7 Hydref, wedi dangos bod lefelau NO2 wedi gostwng ym mhob un o'r pum lleoliad. 

Bydd angen rhagor o wybodaeth i asesu a ellir cadarnhau'r gwelliannau parhaus hyn i ansawdd aer. Mae adroddiad arall ar y gweill ar gyfer mis Mawrth 2020, gyda'r terfynau cyflymder yn cael eu cadw nes bod lefelau nitrogen deuocsid yn gostwng ac yn aros o dan y terfyn cyfreithiol.  

Mae'r terfynau cyflymder ar waith yn y lleoliadau canlynol: 

  • yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy 
  • yr A483 ar bwys Wrecsam
  • yr M4 rhwng Cyffyrdd 41 a 42 ym Mhort Talbot  
  • yr M4 rhwng Cyffyrdd 25 a 26 yng Nghasnewydd 
  • yr A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd.

Yr unig eithriad yw'r M4 yng Nghasnewydd, lle y nodwyd mai gosod terfyn cyflymder o 50mya drwy'r system terfyn cyflymder newidiol, mewn cyfuniad â gwyriadau amrywiol posibl oedd y camau mwyaf priodol.

Cafodd camerâu cyflymder cyfartalog eu codi mewn pedwar lleoliad ym mis Awst, a gwnaethant ddechrau monitro traffig y mis diwethaf. Mae cyflymderau ar yr M4 yng Nghasnewydd yn cael eu monitro gan gamerâu 'cyflymder sbot' wedi'u gosod fel rhan o'r system terfyn cyflymder cyfartalog.

I ddangos bod y camerâu'n monitro terfynau cyflymder er mwyn yr amgylchedd yn hytrach nag at ddibenion diogelwch ar y ffyrdd, mae gardiau camera gwyrdd wedi cael eu gosod arnynt, yn hytrach na'r gardiau melyn safonol.

Mae'r ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o'r rhesymau dros gyflwyno'r terfynau cyflymder yn cynnwys arwyddion gwybodaeth traffig ym mhob un o'r pum lleoliad, ymgysylltu ag ysgolion drwy gystadleuaeth i ddylunio arwydd ac ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates, yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Etholwold yn Shotton i drafod problemau ansawdd aer ar yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy â disgyblion:

"Dw i'n falch iawn gweld y canfyddiadau hyn yn ystod blwyddyn gyntaf y terfynau cyflymder hyn, ond mae'n hanfodol ein bod yn parhau i leihau allyriadau er mwyn diogelu pobl rhag datblygu cyflyrau iechyd difrifol a all fod yn beryglus."

Ychwanegodd:

"Hoffwn i feddwl y byddai'r rhan fwyaf o ddefnyddwyr ffyrdd yn cytuno bod diogelu pobl rhag salwch neu hyd yn oed farwolaeth yn bwysicach nag arbed ambell funud ar eu siwrnai."

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a  Materion Gwledig:

"Mae'n hanfodol ein bod yn lleihau allyriadau nitrogen deuocsid ar unwaith, er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol ac i ategu ein huchelgais i weld Cymru iachach sy'n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae'r camau sydd wedi cael eu cymryd ar ein rhwydwaith ffyrdd i sicrhau bod gyrwyr yn cydymffurfio yn hanfodol i sicrhau ein bod yn llwyddo i leihau allyriadau."