Mae dannedd babi YN bwysig, dyna oedd neges yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wrth iddo ymweld â Meddygfa Pontcae ym Merthyr Tudful heddiw.
Lansiwyd ymgyrch Mae Dannedd Babi YN Bwysig Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o ba mor bwysig ydyw i sicrhau bod plant yn gofalu am eu dannedd o’r cychwyn cyntaf i atal dannedd rhag pydru.
Y neges i rieni yw:
- Mae angen dechrau brwsio dannedd plant yn syth pan fyddant yn cael eu dannedd cyntaf yn 6 mis oed
- Brwsiwch y dannedd cyn mynd i'r gwely ac un waith arall yn ystod y dydd
- Defnyddiwch ychydig o bast dannedd fflworid
- Ewch â phlant at y deintydd cyn eu bod yn 1 oed a dylai'r teulu cyfan gael archwiliad rheolaidd gan y deintydd
- Cyfyngwch ar fwydydd a diodydd siwgr wrth ddiddyfnu.
"Er bod iechyd y geg yn gwella yng Nghymru, mae 35% o blant ifanc yn dal i ddioddef o bydredd dannedd erbyn eu bod yn 5 oed. Mae'r nifer hwn llawer yn uwch ym Merthyr Tudful lle rwyf heddiw.
"Mae modd atal pydredd dannedd ac mae angen i hyn wella. Mae ein rhaglen Cynllun Gwên yn gwneud gwahaniaeth go iawn i wella iechyd y geg ymhlith plant ledled Cymru. Yn ddiweddar, cafodd y rhaglen ei hailwampio gan ein bod yn gwybod mai'r hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n digwydd gartref o ddydd i ddydd. Mae bellach yn cynnwys mwy o help i dimau practis deintyddol i ymwneud â babis, plant ifanc iawn a'u rhieni i sicrhau bod y cynnydd cadarnhaol rydyn ni wedi'i wneud hyd yn hyn yn parhau.
"Bydd newidiadau bach yn gwneud gwahaniaeth mawr i iechyd y geg ymhlith ein pobl ifanc. Gadewch inni ofalu am eu dannedd a gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw reswm i wenu yn y dyfodol."
Dywedodd y Prif Swyddog Deintyddol, Dr Colette Bridgman:
"Mae dannedd babi yn bwysig iawn i iechyd a datblygiad plentyn.
"Gall dannedd drwg effeithio ar allu plentyn i fwyta a chysgu a gall arwain at boen a haint a chael eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth o dan anesthetig cyffredinol. Mae modd atal pydredd dannedd.
"Mae angen dechrau gofalu am ddannedd yn syth pan fydd y plentyn yn cael ei ddant cyntaf. Mae llawer o bobl yn credu nad yw dannedd babi yn bwysig gan y bydd y dannedd yma'n cael eu colli ac y bydd ail set yn tyfu yn eu lle.
"Maen nhw yn bwysig. Pan fydd dannedd babi yn cael eu colli'n rhy gynnar, mae'r lle sydd ar gael i'r ail set dyfu yn lleihau a bydd yn achosi poen i'r plentyn. Bydd hyn yn achosi i'r dannedd parhaol fod yn gam neu dyfu'n rhy agos at ei gilydd.
"Gall timau practis deintyddol roi cyngor ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn. Gallan nhw gynnig gofal cynnar a rhoi cyngor ar sut i gadw dannedd yn iach ac maen nhw'n annog rhieni plant ifanc iawn i fynd at y deintydd. Dyna pam fod yr ymgyrch hon mor bwysig."