Mae Lesley Griffiths, wedi dangos ei hymrwymiad i gefnogi coedwigaeth yng Nghymru drwy gyhoeddi rownd arall o gynigion ar gyfer prosiectau o dan Gynllun Creu Coetir a Chynllun Adfer Coetir Glastir.
Bydd y cynlluniau, sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer plannu coetir newydd ac adfer coetir, yn derbyn cynigion o 1 Ebrill.
Glastir yw cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli tir mewn modd cynaliadwy. Mae wedi derbyn cyllid drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014–2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae'n talu am ddarparu nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol penodol sydd â'r nod o wneud y canlynol:
- mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd
- gwella'r ffordd mae dŵr yn cael ei reoli
- cynnal a gwella bioamrywiaeth
Cafodd Cynllun Creu Coetir Glastir ei sefydlu i gynyddu arwynebedd y coetiroedd newydd yng Nghymru drwy gynnig cymorth ariannol ar gyfer plannu coed. Gall hefyd gyfrannu at ymrwymiad y Prif Weinidog i greu coedwig genedlaethol newydd ar gyfer Cymru.
Mae Cynllun Adfer Coetir Glastir yn galluogi'r gwaith o ailblannu coetiroedd sydd wedi'u heintio â Phytophthora ramorum a lleiniau o goed llarwydd, i helpu i rwystro'r clefyd rhag lledaenu. Pan fydd coetir yn cael ei lwyrgwympo, mae'r cynllun yn rhoi cyfle i gynyddu amrywiaeth rhywogaethau coed i gynyddu eu gallu i wrthsefyll newid yn yr hinsawdd a difrod gan blâu a chlefydau.
Gyda'i gilydd maent wedi arwain at blannu 1,081 hectar o goed newydd ac ailstocio 813 hectar o goed, gyda channoedd mwy'n aros i gael eu cymeradwyo.
Dywedodd Lesley Griffiths:
"Mae cynlluniau Glastir yn darparu cymorth ar gyfer amrediad o gynigion a fydd yn gwella'r ffordd mae ein hadnoddau naturiol yn cael eu rheoli, ac a fydd yn cyfrannu at lesiant ein cymunedau gefn gwlad.
"Nid yn unig mae coedwigaeth yn dda ar gyfer ein hamgylchedd a'n llesiant. Mae hefyd yn dda ar gyfer ein heconomi. Gall coedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n dda ddarparu cyflenwad cyson, cynaliadwy o bren, a dyna pam rydyn ni am annog pobl i reoli'r coetiroedd sydd eisoes gennyn ni yng Nghymru yn well.
"Mae clefyd wedi creu her na welwyd mo'i thebyg o'r blaen ar yr ystad gyhoeddus, ond mae ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn dda. Lle bu angen cwympo coed, rydyn ni'n ailblannu rhywogaethau mwy cydnerth er mwyn datblygu coetiroedd iachach a mwy amrywiol. Bydd y rhain yn cynyddu amrywiaeth coed, ac yn creu pren a choedwigoedd yng Nghymru o ansawdd uchel, yn ogystal â'u gwneud yn llai agored i glefydau yn y dyfodol."
Ddoe gwnaeth y Gweinidog Ddatganiad Llafar yn y Senedd yn amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ymdrin â'r heriau mae'r amgylchedd yn eu hwynebu a'r gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi coedwigaeth yng Nghymru.
Gall coedwigoedd sy'n cael eu rheoli'n dda ddarparu cyflenwad cyson, cynaliadwy o bren, a dyna pam rydyn ni am annog pobl i reoli'r coetiroedd sydd eisoes gennyn ni yng Nghymru yn well. Rydym eisoes wedi neilltuo £5 miliwn o gyllid y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer ein Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Pren poblogaidd iawn, ac rydym wedi neilltuo £2 miliwn arall ar gyfer pedwaredd rownd o gyllid – gwnaethom ddechrau derbyn mynegiannau o ddiddordeb ar 1 Chwefror. Mae'r cynllun yn darparu cyllid cyfalaf ar gyfer gwelliannau sy'n ychwanegu gwerth at goedwigoedd o ran gweithgareddau rheoli coetir, cynaeafu pren a phrosesu pren.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflymu'r gwaith o greu coetir, ac mae ein strategaeth ddiwygiedig yn rhoi canllawiau ar y mathau o goed a choetiroedd sydd eu hangen arnom yng Nghymru, ac arweiniad clir i reolwyr coetir.
Ychwanegodd Lesley Griffiths:
"Drwy weithio gydag eraill, ein nod yw manteisio i'r eithaf ar y buddion amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol amryfal mae'r ystad goetir yn eu darparu.
"Gall coetiroedd wneud cyfraniad pwysig at nwyddau cyhoeddus megis dal a storio carbon a bioamrywiaeth coedwigoedd. Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i syniadau ar gyfer integreiddio coetiroedd a choedwigaeth i greu busnesau fferm cydnerth. Gall hyn gael ei gysylltu â'r gwaith o greu coedwig genedlaethol."