Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyflogaeth yn cynyddu’n gynt yng Nghymru nag yn y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd, gan gyrraedd 75.1% ar ei uchaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn frwdfrydig ynghylch cael mwy o bobl i mewn i’r byd gwaith, a’n ddiweddar bu yn y Rhyl i gwrdd â phobl sydd wedi cael cyflogaeth diolch i raglen Cymunedau am Waith.

Mae’r rhaglen yn rhan allweddol o Gynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru sydd â’r nod o addysgu, hyfforddi a pharatoi pobl ar gyfer cyflogaeth, gan gael gwared ar rwystrau.

Mae Cymunedau am Waith wedi helpu bron 6000 o bobl ledled Cymru i ddod o hyd i gyflogaeth. Erbyn 2020, bydd y rhaglen wedi darparu cymorth gwerth £70.5 miliwn.

Mae’r rhaglen yn caniatáu i bobl broffesiynol yn y gymuned weithio gydag oedolion ifanc sy’n NEET (hynny yw, nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant), yn ddi-waith, neu’n economaidd-anweithredol. Nod y gwaith yw dod i ddeall yr hyn sy’n eu rhwystro rhag dod o hyd i waith, a’u helpu i gael y sgiliau, yr hyfforddiant a’r profiad sydd ei angen arnynt. Mae’r rhaglen wedi’i hanelu’n benodol at bobl o anheddau lle nad oes unrhyw un yn gweithio, lleiafrifoedd ethnig, pobl sydd â rhwystrau penodol megis diffyg sgiliau, anableddau, cyflyrau iechyd, neu gyfrifoldebau gofal.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’r cynnydd yn lefelau cyflogaeth yn galonogol, ond mae diweithdra ac anweithgarwch economaidd yn dal i fod yn broblem yng Nghymru. Mae rhaglenni fel Cymunedau am Waith a PaCE (rhaglen Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth) yn dangos ein bod yn benderfynol o daclo’r materion hyn.

“Mae tystiolaeth gref mai cyflogaeth yw’r ffordd fwyaf cynaliadwy o ddod allan o dlodi. Mae Cymunedau am Waith yn ymwneud â phobl yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig gan roi cymorth i’r bobl sydd ei angen fwyaf a sicrhau bod gan bawb, o bob cefndir y cyfle i gyfrannu i’n cymdeithas.”