Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yng nghynhadledd genedlaethol a chyfarfod cyffredinol blynyddol Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog mai gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol yw system iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n cynnig gwasanaethau di-dor i'r rhai sydd eu hangen.

Yn gynharach yr wythnos hon, lansiwyd Cymru Iachach, cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Dyma’r cynllun cenedlaethol cyntaf yn y DU i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.

Dywedodd y Gweinidog wrth gynulleidfa o weithwyr cymdeithasol o bob cwr o'r DU am bedair nodwedd neilltuol dull gweithredu Llywodraeth Cymru: parhau i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol, canolbwyntio ar atal, datblygu a chefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol a chyd-gynhyrchu gyda defnyddwyr gwasanaethau.

Dywedodd y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies:

"Yng Nghymru, rydyn ni'n rhoi blaenoriaeth i ofal cymdeithasol fel sector o bwysigrwydd cenedlaethol. Er gwaetha'r toriadau sylweddol i Gyllideb Llywodraeth Cymru, rydyn ni wedi parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau cymdeithasol. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r sefyllfa yn Lloegr, lle'r ydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau cymdeithasol wedi dioddef yn sgil toriadau enfawr i gyllid dros y chwe blynedd ddiwethaf.

"Fodd bynnag, er bod cyllid ychwanegol yn helpu i leddfu’r pwysau presennol, mae cynnal lefel ddigonol o gyllid i ddiwallu'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol yn parhau i fod yn heriol. Rwy'n gwybod bod sawl barn wahanol ynghylch sut i roi sylw i gyllid gofal cymdeithasol yn y tymor hir, ac mae codi arian cyhoeddus ychwanegol drwy ardoll gofal cymdeithasol yng Nghymru yn un opsiwn y byddwn yn edrych arno dros y misoedd nesaf."  

Amlinellodd y Gweinidog ddull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gofal cymdeithasol hefyd - drwy gyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol 2016. 

Dywedodd:

"Gyda'i gilydd, mae'r ddwy Ddeddf wedi newid gofal cymdeithasol yn llwyr, gan arwain y ffordd at system gofal a chymorth sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer y person. Un sy'n canolbwyntio ar unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a'r canlyniadau y maen nhw am eu gweld. 

"Datblygwyd y ddeddfwriaeth hon drwy gydweithio, ac rydyn ni’n parhau i gydweithio wrth ei rhoi ar waith. O ganlyniad, rydyn ni’n dechrau sefydlu diwylliant o welliannau gwirioneddol. Mae mwy a mwy o alw am wasanaethau gofal a chymorth, ac mae pwysau i wneud mwy mewn ffordd wahanol - mae hynny'n anodd.

"Cyhoeddwyd ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yr wythnos hon, ar ôl ei ddatblygu mewn proses ar y cyd. Mae'r cynllun yn ymateb i rai o'r heriau sydd o'n blaen. Mae'n gosod gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar system iechyd a gofal cymdeithasol integredig sy'n darparu gwasanaethau di-dor i'r rhai sydd eu hangen."