Mae Ysgrifennydd Cymru dros yr Economi, Ken Skates, wedi addo y bydd Cymru ar ôl y refferendwm yn parhau’n lle gwych i wneud busnes.
Gan siarad cyn ei araith fawr i Sefydliad Materion Cymru ar gyfer digwyddiad o’r enw “Gwneud Busnes yng Nghymru’, pwysleisiodd Ysgrifennydd yr Economi y bydd Cymru’n parhau’n wlad agored, ymatebol a chefnogol i fusnesau.
Ei flaenoriaeth nawr meddai yw cynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd a diogelu swyddi.
Meddai Ken Skates:
“Mae economi Cymru wedi datblygu’n aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae ganddi bellach enw cryf trwy’r byd fel lle da i fuddsoddi ynddo.
“Eisoes eleni, mae cyhoeddiadau gan Aston Martin, MotoNovo, TVR, Esentra, EE a BT yn dangos bod ein henw da fel gwlad fagnetig i symud iddi ac i fasnachu ohoni yn tyfu.
“Mae hynny’n rhannol oherwydd ein hagwedd agored, ymatebol a chefnogol at fusnesau. Ni fydd pall ar ein hymrwymiad i hyn, i ddatblygu busnesau Cymru ac i weithio gyda phartneriaid newydd i ddenu prosiectau buddsoddi.
“Â’r refferendwm wedi’i gynnal, fy mlaenoriaeth yw diogelu swyddi a gwneud popeth yn fy ngallu i gynnal yr hyder yn yr economi a’i chadw’n sefydlog.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi y byddai Llywodraeth Cymru’n adeiladu ar ei pherthynas wych â busnesau Cymru ac â mewnfuddsoddwyr, ac yn cyfrannu’n llawn at y trafodaethau ynghylch amseriad ac amodau gadael yr UE.
Pwysleisiodd y byddai Llywodraeth Cymru’n negodi i gadw’r 500 miliwn o gwsmeriaid ym Marchnad Sengl yr UE, ac i gael parhau i gymryd rhan ym mhrif raglenni’r UE hyd at 2020 wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.
Yfory, bydd Ysgrifennydd yr Economi’n pennu nifer o fesurau tymor byr i roi sicrwydd a sefydlogrwydd i’r gymuned fusnes.
Mae hyn yn cynnwys cynllun ehangu proactif i helpu allforion Cymru, edrych o’r newydd ar ymgyrchoedd ym marchnadoedd tramor Cymru i ddenu mewnfuddsoddwyr, a gweithio i ddatblygu Cynlluniau Cystadlu newydd i sicrhau bod pob rhan o’r Llywodraeth yn canolbwyntio ar wella gallu’r wlad i gystadlu.
Dywedodd Ken Skates hefyd:
“Yr wythnos hon, rwyf wedi siarad â’r FSB, CBI, TUC Cymru a rhai o’n cyflogwyr mwyaf ynghylch sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i ennyn mwy o hyder yn yr economi.
“Yn y tymor hwy, byddwn yn gweithio ar Strategaeth Economaidd i Gymru i ddatblygu’r cryfderau rydym wedi’u meithrin dros y blynyddoedd diwethaf ac i’n paratoi ar gyfer anawsterau’r dyfodol.
“Rydym mewn sefyllfa gref. Cafodd dros 40,000 o swyddi eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru yn 2015/16, 5.3 y cant yn fwy na’r flwyddyn cynt, a bron 150,000 o swyddi yn y Cynulliad diwethaf. Ac mae’n cyfradd cyflogaeth ar gynnydd ac yn uwch na holl rannau eraill y DU.
“Gall neb ddiystyru neges gref y bleidlais wythnos ddiwethaf. Roedd yn fwy na mynegiant o rwystredigaeth â Brwsel. Roedd yn datgelu anfodlonrwydd dyfnach â’r anghydraddoldeb yn strwythur ein heconomi.
“Mae’n bwysig bod ein strategaeth economaidd newydd yn adlewyrchu’r byd cyfnewidiol ac yn canolbwyntio ar ychwanegu gwerth er lles unigolion a chymunedau yn ogystal â busnesau.
“Byddwn yn gweithio i gyflenwi swyddi o ansawdd, yn nes adref law yn llaw ag amgylchedd cryf i fusnesau yng Nghymru trwy Fanc Datblygu newydd a Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol newydd.
“Er gwaetha’r anawsterau, rwy’n benderfynol o feithrin yr economi hyderus, lewyrchus, disglair a deinamig rydyn ni oll am ei chael ac yn ei haeddu.”