Mae Cymru ar flaen y gad wrth daclo trais yn erbyn menywod a cham-drin domestig yn ôl y Cynghorwyr Cenedlaethol ar y mater yng Nghymru.
Mae Nazir Afzal, cyn brif erlynydd a fu'n arwain ar achos y fasnach rhyw yn Rochdale, a Yasmin Khan, sylfaenydd elusen sy'n taclo trais ar sail anrhydedd, wedi bod yn Gynghorwyr Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ers mis Ionawr 2018.
Maent wedi cyhoeddi eu hadroddiad blynyddol heddiw [Dydd Llun, 30 Medi] sy'n sôn am gynnydd y Llywodraeth, y prif benawdau a'r blaenoriaethau ar gyfer 2018 a 2019. Maent hefyd yn sônam yr heriau a wynebir ar draws Cymru a'r camau sydd angen eu cymryd.
Bydd Yasmin a Nazir yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, sy'n torri tir newydd.
Byddant hefyd yn cydweithio â dioddefwyr, goroeswyr a sefydliadau sy'n bartneriaid er mwyn trafod a llunio gwelliannau yn y modd y mae gwasanaethau'n cael eu cynllunio, eu comisiynu a'u darparu.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Yasmin a Nazir:
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yw un o lwyddiannau mwyaf Llywodraeth Cymru yn ein barn ni, ac mae’n caniatáu i ni ddweud, yn ddi-flewyn ar dafod, bod Cymru'n arwain, a gweddill y Deyrnas Unedig yn dilyn.
Mae'n rhaid i ni sicrhau bod gwasanaethau ledled Cymru yn hygyrch i bawb, yn cynorthwyo dioddefwyr a goroeswyr i ofyn am gymorth ac yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol yr offer a'r wybodaeth i weithredu. Hefyd, mae'n rhaid codi ymwybyddiaeth o VAWDASV a'r gefnogaeth sydd ar gael, a helpu plant a phobl a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn perthynas, a bod ymddygiad difrïol yn anghywir, waeth beth fo'r amgylchiadau.
Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod mai mater o nid da lle gellir gwell yw hi wrth fynd ati i wella pethau i'r unigolion hynny sydd mewn perygl o niwed. Mae hynny'n cynnwys deall y peryglon o ran bod yn agored i niwed mewn ardaloedd gwledig, a sut i ymateb i sensitifrwydd y diwylliant a'r cymunedau gwledig.
Mae adroddiad blynyddol y Cynghorwyr yn edrych i'r dyfodol, gan ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn bennaf. Wrth amlinellu sut y gall y cwricwlwm newydd i Gymru yn 2022 ymdrin â'r materion hyn, dywedodd y Cynghorwyr:
Mae atal yn parhau i fod yn allweddol er mwyn cael gwared ar VAWDASV, ac mae addysg wrth wraidd hyn. Rydym yn manteisio ar arbenigedd ac yn galw ar fenywod a theuluoedd i rannu eu stori, a hynny er mwyn sicrhau nad oes unrhyw gam-gyfathrebu na chamddealltwriaeth ynghylch yr elfen Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb arfaethedig yn y Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn y cwricwlwm newydd.