Mae Cymru wedi ennill enw da gan arbenigwyr teithio cenedlaethol a rhyngwladol fel y un o wledydd gorau'r byd.
Yn ddiweddar, dewisodd Duncan Craig, golygydd teithio The Times a'r Sunday Times, roi ‘Gwobr y Golygydd Teithio’ i Gymru yng Ngwobrau Teithio News UK 2019 a gynhaliwyd yn Llundain. Wrth gyflwyno'r wobr, dywedodd:
"Mae'n fach ond wedi'i ffurfio'n berffaith, yn hygyrch ac yn groesawgar – mae Cymru yn parhau i fynd o nerth i nerth fel cyrchfan.
Mae Ffordd Cymru, menter sy'n canolbwyntio ar lwybrau teithio Cymru, wedi'i henwi ymhlith y 25 o deithiau gorau yn y byd i'w gwneud yn 2020, yn ôl tîmau golygu rhyngwladol National Geographic. Daeth Ffordd Cymru yn drydedd yn y Categori Taith Antur, ac fe'i canmolwyd am ei 'far reaching routes that get the blood pumping'. Y gwledydd oedd ar frig y rhestr oedd Tasmania, Awstralia (1) a Ffordd Alpaidd Uchel Grossglockner, Awstria (2), a gwnaeth Ffordd Cymru guro Tohoku, Japan (4), Kamchatka, Rwsia (5), a Pharc Cenedlaethol Zakouma, Chad (6). Yn ogystal â hyn, enillodd Adventure Parc Snowdonia y wobr ar gyfer plant (profiad teuluol) yng Ngwobrau National Geographic Traveller Reader Awards yr wythnos diwethaf.
Yn ystod Marchnad Deithio'r Byd, ffair y diwydiant teithio rhyngwladol yn Llundain, enillodd Croeso Cymru y Wobr Arian yn y Gwobrau Teithio a Thwristiaeth Rhyngwladol am yr ymgyrch marchnata cyrchfan orau, sy'n gategori cystadleuol iawn a oedd yn cynnwys Puerto Rico, Azerbaijan; KETCHUM INC; Tobago; India a Buzz4Trips.
Daw’r gwobrau hyn ar ôl i Draeth y Castell yn Ninbych y Pysgod ennill gwobr The Sunday Times am y traeth gorau yn y DU a chydag wyth traeth yn ymddangos yn y rhestr o 40 o draethau gorau, roedd yn haf anhygoel i arfordir Cymru. Roedd traeth Marloes a Rhosili ymhlith y deg gorau. Roedd Abermo yn rhif 12, Porth Iago yn Llŷn yn rhif 22; Swanlake Bay yn rhif 26; a Tor bay a Mwnt yn 36 a 37.
Mae Cymru hefyd wedi'i henwi gan Lonely Planet ymhlith y pum taith gynaliadwy orau ar gyfer teuluoedd, gyda safleoedd gwersylla gwyrdd Sir Benfro; Canolfan y Dechnoleg Amgen a'r unig atyniad 'rollercoaster' a bwerir gan bobl ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd ger y Felinheli yn cael eu nodi'n arbennig.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Rwyf wrth fy modd bod Cymru yn cael ei chydnabod ar draws y byd am ei chryfderau megis ansawdd ein hamgylchedd, cynaliadwyedd, antur, hygyrchedd a chroeso. Mae hyn yn cydnabod gwaith caled y diwydiant a'r tîm yn Croeso Cymru i gydweithio i sicrhau bod ein gorau o’r radd flaenaf. Wrth gwrs, rydyn ni o hyd wedi gwybod mai ni yw'r gorau yn y byd - ac mae'n wych pan fydd eraill yn rhannu'r un farn.
Mae Cymru hefyd wedi ymddangos ar y teledu yn yr Almaen. Yn dilyn ymweliad gan griw "Tellvision", Munich a drefnwyd gan Croeso Cymru yn ystod yr haf, roedd rhaglen sy'n denu cynulleidfa o ryw 590,000 wedi dangos y ffarmwr Gareth Wyn Jones yng ngogledd Cymru.
Fis diwethaf, gwnaeth Conwy a Gwynedd ymddangos ar raglen Countryfile y BBC a oedd wedi edrych ar y Gogledd fel maes chwarae antur a threulio amser gyda grwpiau gweithgareddau cynhwysol ar gyfer merched a phobl sydd ag anableddau dysgu. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys cyfweliad gyda'r rheini sy'n cynnal a chadw Llwybr Llechi Eryri ac yn dangos Matt Baker yn rhoi cynnig ar gerbydau chwarel Zip World.