Neidio i'r prif gynnwy

Wedi dweud bod cyfrifoldeb ar bawb mewn cymdeithas i amddiffyn a diogelu plant ac oedolion rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth lansio’r Wythnos Ddiogelu Genedlaethol, dywedodd y Gweinidog fod pobl sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso yn cael eu hannog i ddod ymlaen i rannu eu profiadau â'r awdurdodau priodol er mwyn i gymdeithas ddysgu ac adnabod yr arwyddion, ac atal achosion o gam-drin yn y dyfodol. 

Y llynedd, cafodd deddfwriaeth newydd ei chyflwyno yng Nghymru - Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - sy'n cryfhau'r trefniadau diogelu presennol ar gyfer plant drwy osod dyletswydd ar bartneriaid perthnasol, gan gynnwys y gwasanaeth iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a thimau troseddau ieuenctid i adrodd pan fo ganddynt reswm da dros amau bod plentyn yn wynebu risg. 

Mae'r Ddeddf yn cyflwyno darpariaethau cyfatebol i bartneriaid perthnasol roi gwybod i'r awdurdod lleol os ydynt yn amau bod oedolyn yn wynebu risg o gael ei gam-drin neu ei esgeuluso. Caiff hyn ei gefnogi gan ddyletswydd newydd i'r awdurdod lleol wneud ymholiadau i bennu a oes angen cymryd unrhyw gamau i ddiogelu oedolion sy'n wynebu risg. 

Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant, Huw Irranca-Davies: 

"Nid yw cam-drin ac esgeuluso plant ac oedolion agored i niwed yn dderbyniol, ac mae atal hyn yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Dyma pam inni gyflwyno cyfraith newydd sy'n cryfhau'r camau cyfreithiol ar gyfer diogelu plant ac oedolion yng Nghymru.

"Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn annog pobl sydd wedi cael eu cam-drin a'u hesgeuluso i ddod ymlaen i rannu eu profiadau â'r awdurdodau priodol er mwyn i bawb ddysgu adnabod yr arwyddion os oes rhywun yn cael ei gam-drin, ac i atal hyn rhag digwydd yn y dyfodol. 

"Mae cyfrifoldeb ar bob un ohonom yng Nghymru i ddiogelu pobl rhag niwed a rhag cael eu hesgeuluso." 

Mae Byrddau Diogelu yng Nghymru wedi dynodi'r wythnos sy'n dechrau ar 13 Tachwedd fel Wythnos Ddiogelu. 

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Rwy'n croesawu'r Wythnos Ddiogelu fel cyfle i gydnabod gwaith staff y rheng flaen a chodi ymwybyddiaeth o'r rôl sydd yn rhaid i bawb ei chwarae ar gyfer diogelu plant ac oedolion."