Neidio i'r prif gynnwy

Rhentu Cartrefi Cymru

Mae’r ffordd yr ydych chi’n rhentu wedi newid… i denantiaid a landlordiaid.

Y Ddeddf Rhentu Cartrefi yw'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.

Ar 1 Rhagfyr 2022 gwnaeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 newid y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo, gan.wella'r ffordd yr ydym yn rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru.

Ar bwy y bydd y gyfraith newydd yn effeithio?

Bydd pob tenant cymdeithasol a phreifat yn gweld rhai newidiadau:

  • yn y ffordd y darperir eu contractau
  • yn y ffordd y mae eu cartrefi'n cael eu cynnal a’u cadw
  • i'r ffordd y maen nhw’n cyfathrebu â'u landlordiaid

Bydd angen i bob landlord cymdeithasol a phreifat, gan gynnwys y rhai sy'n rhentu eu heiddo drwy gwmnïau rheoli neu asiantau:

  • gydymffurfio â'r gyfraith newydd
  • gwneud y diweddariadau angenrheidiol i'w heiddo a'u gwaith papur

Beth mae'r gyfraith newydd yn ei olygu i mi?

Tenantiaid

O dan y gyfraith newydd, mae tenantiaid a deiliaid trwyddedau yn 'ddeiliaid contract'. Mae cytundebau tenantiaeth wedi cael eu disodli gan 'gontractau meddiannaeth'.

Bydd y gyfraith newydd yn gwneud rhentu'n haws ac yn rhoi mwy o sicrwydd.

I ddeiliaid contract bydd hyn yn golygu:

  • derbyn contract ysgrifenedig sy'n nodi eich hawliau a'ch cyfrifoldebau
  • cynnydd yn y cyfnod rhybudd 'dim bai' o ddau i chwe mis
  • mwy o amddiffyniad rhag cael eu troi allan
  • gwell hawliau olynu, mae'r rhain yn nodi pwy sydd â'r hawl i barhau i fyw mewn annedd, er enghraifft ar ôl i'r tenant presennol farw
  • trefniadau mwy hyblyg ar gyfer cyd-ddeiliaid contract, gan ei gwneud yn haws i ychwanegu eraill at gontract meddiannaeth neu eu tynnu oddi arno

Landlordiaid

I landlordiaid bydd hyn yn golygu:

  • System symlach, gyda dau fath o gontract: 'Diogel' ar gyfer y sector rhentu cymdeithasol a 'Safonol' ar gyfer y sector rhentu preifat.
  • Sicrhau bod anheddau'n ffit i fod yn gartref. Bydd hyn yn cynnwys profion diogelwch trydanol a sicrhau bod larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid sy'n gweithio wedi'u gosod.
  • Gellir adfeddu eiddo gadawedig heb fod angen gorchymyn llys.

Beth ddylwn i ei wneud nesaf?

P'un a ydych yn landlord neu'n denant, mae'n bwysig eich bod yn gwybod beth fydd y newidiadau hyn yn ei olygu i chi.

Dysgwch fwy nawr am sut y bydd y gyfraith newydd yn effeithio arnoch chi.

Canllawiau i landlordiaid
Gallwch weld canllawiau eraill, gan gynnwys sut i greu contract meddiannaeth wedi’i drosi ac enghreifftiau o ddatganiadau ysgrifenedig, yma.