Mae cosbi plant yn gorfforol yn aneffeithiol, yn perthyn i’r oes a fu, ac mae’n mynd yn erbyn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi’r dechrau gorau posib i blant.
Gan siarad mewn cynhadledd yng Nghaerdydd ar ‘Hyrwyddo magu plant cadarnhaol i helpu i wneud y byd yn lle mwy heddychlon’, bydd y Gweinidog yn dweud bod y ffordd y mae rhieni’n cefnogi eu plant yn eu blynyddoedd ffurfiannol yn bwysicach na ffactorau eraill, megis statws cymdeithasol neu strwythur y teulu. Dyna pam bod cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau posib i’w plant wrth galon agenda Llywodraeth Cymru.
Bydd yn ailadrodd ac yn ategu barn Llywodraeth Cymru nad yw cosbi plant yn gorfforol bellach yn dderbyniol mewn Cymru fodern, flaengar.
Mae Gweinidogion yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n diddymu’r amddiffyniad cosb resymol o’r gyfraith. Byddai hyn yn ei gwneud yn glir nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru bellach.
Mae hyn yn rhan o becyn llawer ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi rhieni.
Bydd Huw Irranca-Davies yn dweud:
“Yng Nghymru, ry’n ni’n falch iawn o’n record o hyrwyddo hawliau plant a gweithio i sicrhau’r dechrau gorau posib i fywyd i bob plentyn.
“Does dim byd pwysicach na diogelwch a lles plant. Mae magu plant yn rhywbeth sy’n bwysig i bawb. Y rhieni sy’n bennaf gyfrifol wrth gwrs, ond mae gan Lywodraeth Cymru rôl benodol yn y gwaith o greu cymdeithas lle bydd plant yn ddiogel ac yn gallu ffynnu.
“Mae’r hyn yr a wyddwn am beth sydd ei angen ar blant i dyfu a ffynnu wedi datblygu cryn dipyn dros yr ugain mlynedd ddiwethaf. Gwyddwn bellach y gall cosb gorfforol gael effaith hirdymor negyddol ar gyfleoedd bywyd plant. At hynny, gwyddwn ei fod yn gosb aneffeithiol.
“Os oes risg o niwed i blentyn, yna mae’n ddyletswydd arnom ni, fel Llywodraeth, i weithredu. Flynyddoedd yn ôl, cyflwynwyd deddfwriaeth i atal cosb gorfforol mewn ysgolion a lleoliadau gofal plant – nawr mae’n amser sicrhau nad yw’n dderbyniol yn unrhyw le.
“Mae cosbi plant yn gorfforol yn perthyn i’r oes a fu – nid yw’n dderbyniol yn y Gymru fodern, ein Cymru flaengar. Dyna pam rydym am ddiddymu’r amddiffyniad cosb resymol. Bydd hyn yn ategu’n hymrwymiad i hawliau plant, yn seiliedig ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.”
“Ein nod yw cyflymu tueddiadau sy’n bodoli eisoes ymysg rhieni, o ran y ffordd y maent yn disgyblu eu plant ac yn eu cefnogi i deimlo’n hyderus i ddewis dulliau disgyblu mwy cadarnhaol a mwy effeithiol.”
Mae’r ymgynghoriad ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar agor tan 2 Ebrill.