Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod Theodore Joloza a Julie May wedi cael eu hailbenodi fel aelodau i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Meddai Alun Davies:
"Rwy'n falch o gyhoeddi ailbenodi Theodore Joloza a Julie May.
"Bydd yr ailbenodiadau hyn yn sicrhau bod y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol yn y Comisiwn wrth iddi barhau i adolygu holl ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, a threfniadau etholiadol prif gynghorau, ac i wneud cynigion i Lywodraeth Cymru, a ystyrir yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
"Bydd Mr Joloza a Mrs May yn parhau i ddod â phrofiad gwerthfawr i'r rolau."
Mae'r ailbenodiadau wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a byddant yn cychwyn ar 1 Medi 2018 am dymor o dair blynedd.
Fel aelodau, telir ffi ddyddiol o £198 i Mr Joloza a Mrs May gydag ymrwymiad amser o 2-3 diwrnod y mis.