Mae ymchwil newydd yn dangos, am y tro cyntaf, sut mae mesurau Llywodraeth Cymru i wneud cartrefi teuluoedd isel eu hincwm yn fwy ynni-effeithlon yn cael effaith dda ar iechyd hefyd.
Mae’r canfyddiadau a gyhoeddir heddiw yn adroddiad prosiect Cysylltu Data Iechyd Tlodi Tanwydd yn dangos bod pobl sydd wedi cael elwa ar gynllun Cartrefi Clyd Nyth Llywodraeth Cymru yn defnyddio llai o’r gwasanaeth iechyd.
Defnyddiodd yr astudiaeth ddata’r GIG i gymharu faint mae pobl sydd wedi elwa ar welliannau arbed ynni cynllun Nyth yn defnyddio’r GIG â grŵp rheoli a oedd yn gymwys am welliannau ond a oedd yn aros iddynt gael eu cwblhau.
Dangosodd yr ymchwil fod ymweliadau â’r meddyg teulu ynghylch salwch resbiradol yn cwympo bron 4% ymhlith y rheini oedd wedi elwa ar gynllun Nyth. Gwelwyd cynnydd o bron 10% yn y grŵp rheoli dros yr un cyfnod.
Gwelwyd patrwm tebyg hefyd gydag asthma, gyda 6.5% o ostyngiad yng ngrŵp Nyth a 12.5% o gynnydd yn y grŵp rheoli yn yr un cyfnod.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
“Yn ogystal â dangos bod cynllun llwyddiannus Cartrefi Clyd Nyth yn helpu i leihau biliau ynni a gostwng allyriadau, mae’r astudiaeth yn dangos ei fod yn cael effaith bositif ar iechyd a lles rhai o aelwydydd mwyaf bregus Cymru.
“Dyna pam rwy mor hapus ein bod am barhau i fuddsoddi i wneud cartrefi isel eu hincwm yn fwy ynni-effeithlon ac ymrwymo £104 miliwn dros y pedair blynedd nesaf i estyn cynllun Cartrefi Clyd Nyth i ragor na 25,000 yn fwy o gartrefi.”
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Cyhoeddus a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans:
“Yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae angen i gyrff cyhoeddus weithio gyda’i gilydd i wella llesiant ac iechyd pobl Cymru. Mae’r ymchwil hon yn galonogol wrth inni gydweithio â chymunedau i wella iechyd a lles ac i feddwl yn wahanol am y ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau. Mae atal afiechyd yn well o lawer na’i drin.”
Dywedodd yr Athro Ronan Lyons, Cyfarwyddwr Cysylltiol Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADRC-W) sy’n gweithio yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe.
“Rydyn ni’n falch iawn bod ADRC-W wedi gallu helpu Llywodraeth Cymru unwaith eto i ddadansoddi sut mae Cynllun Cartrefi Clyd Nyth wedi effeithio ar gartrefi Cymru ac iechyd y bobl sy’n byw ynddyn nhw.”
Mae canfyddiadau’r ymchwil wedi’u defnyddio i ddatblygu cynllun newydd Cartrefi Clyd Nyth ac felly caiff y pecyn o fesurau di-dâl i arbed ynni mewn cartrefi ei estyn i gartrefi isel eu hincwm sydd ag aelodau sy’n dioddef o gyflyrau anadlu a chylchrediad y gwaed.
Dywedodd Prif Weithredwr ESRC, yr Athro Jane Elliott:
“Mae canfyddiadau’r prosiect yn dangos grym cysylltu data gweinyddol at ddiben ymchwil a gwerthuso polisi ac i ddarparu tystiolaeth gadarn er mwyn inni allu darparu rhaglenni’n fwy cost effeithiol a gwasanaethau i wella iechyd ac ansawdd bywyd pobl yng Nghymru. Mae’r Rhwydwaith Ymchwil Data Gweinyddol a noddir gan yr ESRC yn cynnal nifer o brosiectau ymchwil pwysig eraill ledled y DU sy’n darparu tystiolaeth ar amrywiaeth o broblemau polisi a chymdeithasol na ellir mo’u datrys heb gysylltu data gweinyddol y llywodraeth.”