Fod gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru yn cael buddsoddiad ychwanegol fel rhan o ymdrechion i sicrhau bod modd rhyddhau cleifion o ysbytai cyn gynted â phosibl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Cadarnhaodd y Gweinidog fod rhan o’r £10m ychwanegol oddi wrth Lywodraeth Cymru i leihau pwysau’r gaeaf yn y GIG yn cael ei defnyddio i sicrhau bod gwasanaethau gofal cartref ar gael er mwyn i gleifion y mae arnynt angen cymorth parhaus yn y gymuned allu gadael yr ysbyty yn gynt. Bydd yr arian hefyd yn helpu pobl i aros yn eu cartrefi eu hunain, gan osgoi gorfod mynd i’r ysbyty yn ddiangen, lle bo modd. 

Mae’r arian hwn yn ychwanegol at y £60m y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi yn y Gronfa Gofal Integredig bob blwyddyn, sy’n helpu i leihau pwysau ar wasanaethau GIG a gofal cymdeithasol hanfodol. Mae’r gronfa yn helpu i sbarduno gweithio integredig rhwng iechyd, gofal cymdeithasol, tai a’r trydydd sector at ystod o ddibenion ataliol, gan gynnwys helpu pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol.

Mae buddsoddiad wedi ei wneud mewn nifer o feysydd, sy’n cynnwys:

  • Ariannu gwasanaethau ailalluogi ychwanegol fel bod modd cytuno ar becynnau gofal a chymorth unigol i gleifion, a’u sefydlu, er mwyn eu hatal rhag gorfod mynd i’r ysbyty a’u cefnogi wrth iddynt gael eu rhyddhau o’r ysbyty
  • Cynyddu’r gallu o fewn Timau Gwaith Cymdeithasol Oedolion awdurdodau lleol i sicrhau bod unigolion yn symud yn rhwyddach drwy’r ysbyty ac yn gallu dychwelyd adref
  • Ymestyn y cymorth sydd ar gael gan Ofal a Thrwsio am addasiadau bach i bobl hŷn er mwyn iddynt allu gadael yr ysbyty yn amserol
  • Darparu gwasanaethau adsefydlu dwys er mwyn helpu pobl i adael yr ysbysty yn gynt a’u helpu i fod yn llai dibynnol
  • Cynyddu gwasanaethau gofal cartref brys byrdymor yng nghartrefi pobl eu hunain 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
Mae’r ystadegau diweddaraf yn dangos bod nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal yng Nghymru ar eu hisaf am y tro cyntaf ers 12 mlynedd. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies: 

“Yng Nghymru, rydyn ni’n buddsoddi’n sylweddol yn ein gwasanaeth iechyd a’n gwasanaeth gofal cymdeithasol, gan nad yw’r naill wasanaeth yn gallu gweithio heb y llall.

“Mae’r arian ychwanegol oddi wrthon ni yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod cleifion yn symud drwy’r system yn rhwyddach, ac i drin a gofalu am y nifer gynyddol o bobl – yn enwedig y bobl hŷn fregus – y mae arnyn nhw angen gwasanaethau iechyd a gofal ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, dw i wedi cael y fraint o ymweld ag ystod o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol i weld y gweithio a’r cydweithio integredig rhagorol rhwng gwasanaethau. Mae’r gwaith hanfodol hwn yn helpu pobl i barhau i fyw’n annibynnol ac i aros gartref. Mae hefyd yn eu helpu i osgoi gorfod mynd i’r ysbyty neu gartref gofal preswyl yn ddiangen, ac mae’n lleihau cymaint â phosibl yr oedi pan fydd yn bryd i rywun adael gofal.

“Dyma’r union fath o gydweithio rydyn ni am weld mwy ohono, ac a fydd yn union sail i’n gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn y blynyddoedd a’r degawdau sydd i ddod.”