Ar ymweliad ag atyniad mwyaf newydd Cymru, Zip World Tower, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething fod atyniadau Cymru ar agor ac yn barod i groesawu ymwelwyr dros yr haf.
Zip World Tower yw pedwerydd safle Zip World i agor, a dyma'r cyntaf i gael ei leoli yn ne Cymru. Mae'r ganolfan antur wedi trawsnewid hen safle cloddio glo Glofa'r Tŵr ger Hirwaun yng Nghwm Cynon, ac mae galw mawr am docynnau ers i’r ganolfan agor ym mis Ebrill.
Dywedodd Andrew Hudson, Cyfarwyddwr Masnachol Zip World:
"Yn dilyn sylw cenedlaethol yn y cyfryngau a gafodd ei wylio dros 26 miliwn o weithiau mae archebion i ymweld â Zip World Tower ers i’r ganolfan agor ar Ebrill 26 wedi bod yn eithriadol ac mae’r galw mawr yn parhau gydol yr haf a thu hwnt. Mae Cegin Glo, sef y Bistro a’r Bar ar y safle sy’n cynnig golygfeydd anhygoel o Fannau Brycheiniog, hefyd wedi gweld niferoedd uchel o ymwelwyr ac mae'n dod yn fan cynyddol boblogaidd ac unigryw ymysg pobl leol sy’n dymuno mwynhau bwyd a diod gwych. Rydym yn falch iawn i groesawu ymwelwyr am anturiaethau unwaith eto ac yn edrych ymlaen at haf prysur."
Mae Zip World yn cyflogi mwy na 450 o bobl ar draws y 4 safle, a chafodd Gyllid Cadernid Economaidd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu swyddi a chefnogi costau gweithredol hanfodol a oedd yn caniatáu i'r cwmni agor yn gyflym ac yn ddiogel.
Mae datblygiadau pellach ar y safle gan y bydd The Tower Coaster yn cael ei lansio ar 3 Gorffennaf a dyma fydd y cyntaf o'i fath yn Ewrop.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous iawn i'r ardal ac mae’r atyniad bellach yn cael ei ystyried yn un o uchafbwyntiau ymweliad â De Cymru. Mae wedi bod yn flwyddyn mor heriol i'r sector, ond mae'n wych gweld y safle bellach ar agor ac yn croesawu ymwelwyr.
"Dyma'r flwyddyn i fwynhau gwyliau gartref a phrofi popeth y gall ein gwlad hardd ei gynnig. Mae gan Gymru gymaint o atyniadau rhagorol ac amrywiol – ac maent bellach ar agor ac yn barod i groesawu ymwelwyr yn ddiogel.
"Mae'n bwysig i ni gefnogi ein busnesau twristiaeth a lletygarwch lleol a thrwy ymgyrch twristiaeth gyfrifol Addo Croeso Cymru rydym yn atgoffa pobl Cymru ac ymwelwyr o bob rhan o'r DU i barchu ei gilydd, ein cymunedau a'n tir wrth i ni baratoi ar gyfer haf prysur."