Neidio i'r prif gynnwy

Mewn araith bwysig i Sefydliad Bevan yn ddiweddarach heddiw (16 Mehefin), bydd y Gweinidog Addysg yn amlinellu mesurau i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol ac i osod safonau uchel i bawb.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd rhai o'r camau gweithredu a amlinellir yn cynnwys:

  • edrych ar ffyrdd o ddenu athrawon i'r ardaloedd mwyaf difreintiedig, a mynd i'r afael â materion y mae llawer o ysgolion yn eu hwynebu wrth recriwtio ac ailhyfforddi athrawon mewn ardaloedd heriol. Y nod fydd treialu dulliau gwahanol i ddechrau.
  • cyflwyno rhaglen i ddarparu cymorth gan gymheiriaid i uwch-arweinwyr sy'n gweithio yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Fel rhan o'r rhaglen hon, byddent yn cael eu mentora gan gyd-weithwyr sydd wedi gweithio mewn ardaloedd tebyg ac sy'n gallu cynnig arweiniad a chymorth ymarferol.
  • comisiynu ymchwil mewn perthynas ag addysgu dysgwyr mewn "grwpiau cyrhaeddiad cymysg". Mae tystiolaeth ryngwladol yn dangos mai’r gwledydd sy'n mabwysiadu grwpiau cyrhaeddiad cymysg cyhyd ag y bo modd yw'r rhai sydd â'r systemau tecaf yn aml. Bydd hyn yn arwain at ganllawiau cenedlaethol ar gyfer pob ysgol.

Bydd yr araith yn nodi cyfres o fesurau fel rhan o ddull system gyfan, gan gefnogi addysg a gofal plentyndod cynnar, addysg gynradd ac addysg uwchradd, a phob math o addysg, hyfforddiant a dysgu gydol oes ôl-16.

Dull cymunedol o ddarparu addysg fydd yn sail i’r rhain, gan sicrhau addysgu ac arweinyddiaeth o'r radd flaenaf, gyda ffocws ar iechyd a llesiant.

Bydd y dull system gyfan hwn yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm newydd i Gymru ac yn sicrhau bod pob dysgwr o'r cyfnod cyn-ysgol hyd at ddysgu ôl-16 a dysgu gydol oes yn cael ei gefnogi drwy gydol eu taith addysg.

Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:

Yn anad dim, cenhadaeth ein cenedl yw sicrhau safonau uchel a dyheadau uchelgeisiol i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, gan greu system addysg wirioneddol deg yng Nghymru.

Gwyddom fod y tarfu a welwyd yn sgil y pandemig wedi gwaethygu'r bwlch rhwng dysgwyr o gefndiroedd incwm isel a'u cyfoedion. Nawr, yn fwy nag erioed, yw'r amser inni gymryd camau radical a pharhaus, a chreu system addysg deg i'n plant a’n pobl ifanc i gyd.

Wrth inni symud tuag at gyflwyno ein Cwricwlwm newydd i Gymru, mae angen inni sicrhau bod ein dysgwyr i gyd yn cael eu cefnogi i wireddu eu potensial, a dyna pam rwy'n nodi'r mesurau y byddwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â hyn fel blaenoriaeth ddiamod.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agosach gyda'r Sefydliad Gwaddol Addysg, elusen uchel ei pharch sy'n gweithio i gau'r bwlch anfantais. Bydd y ddau sefydliad yn ffurfio 'partneriaeth strategol', gyda Llywodraeth Cymru yn defnyddio arbenigedd a phrofiad y Sefydliad Gwaddol Addysg yn y sector addysg. Mae'r cynlluniau yn cynnwys gweithio gyda'r Sefydliad hwn i ddarparu addysg a chyngor proffesiynol i athrawon mewn perthynas â ffyrdd seiliedig ar dystiolaeth o godi cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd incwm isel, ac i gefnogi eu llesiant.