Neidio i'r prif gynnwy

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod a Merched mewn Gwyddoniaeth, mae’r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans yn llongyfarch enillwyr cystadleuaeth y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol, CyberFirst Girls, yng Nghymru ac yn annog mwy o fenywod ifanc i ddilyn eu hôl troed a dewis gyrfa ym maes seiber.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daeth cannoedd o ferched 12 a 13 mlwydd oed o bob cwr o Gymru at ei gilydd dros y penwythnos i roi prawf ar eu sgiliau seiber mewn cyfres o heriau torri-cod hwyl a chyffrous. Y wobr oedd lle yn y rownd derfynol ac ar ôl diwrnod o ddatrys problemau cyhoeddwyd mai Ysgol Eglwys Gadeiriol Llandaf oedd yr enillwyr dros Gymru.

Bydd Ysgol yr Eglwys Gadeiriol nawr yn cystadlu yn erbyn y timau buddugol o Ogledd Iwerddon, yr Alban a threfi a dinasoedd amrywiol ledled Lloegr yn y rownd derfynol fawr a gynhelir yng Nghymru ar 16 Mawrth.

Wrth longyfarch y tîm buddugol o Gymru, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Mae’r gystadleuaeth hon yn gyfle ardderchog i ganfod a meithrin ein merched ifanc dawnus.

“Mae prinder mawr o fenywod yn y diwydiant seiber yng Nghymru, felly mae cystadlaethau fel y rhain yn ffordd bwysig iawn o gyflwyno merched ifanc i’r diwydiant i geisio amrywio gweithlu’r dyfodol ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr seiber.

“Hoffwn longyfarch y tîm buddugol yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol a dymuno pob hwyl iddyn nhw yn y rownd derfynol.”

Dywedodd Chris Ensor, Dirprwy Gyfarwyddwr Sgiliau a Thwf y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol:

“Ni waeth a aeth eu timau drwodd i’r rownd derfynol ai peidio, gobeithiwn fod llawer o’r merched a gymerodd ran wedi’u hysbrydoli i gael gwybod mwy am seiberddiogelwch ac ymddiddori ymhellach yn y maes cyffrous hwn.

“Llongyfarchiadau i’n pencampwyr o Gymru yn Ysgol yr Eglwys Gadeiriol. Edrychwn ymlaen at eich gweld yn y rownd derfynol!”